Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
16:32 17/01/2023
Ym mis Gorffennaf 2022, gwelodd swyddogion a oedd ar batrôl yn ardal Stanleytown yr hyn oedd yn edrych fel pobl yn delio cyffuriau. Gwelwyd dyn yn gadael cyfeiriad ac yn gosod bag mawr, o beth a gredir i fod yn ganabis, yng nghefn car.
Ceisiodd y car ddianc rhag yr heddlu, ond cafodd ei ddal yn fuan wedi hynny. Cafodd y gyrrwr, Andi Smile, 52, o Lynrhedynog, a'r teithiwr, Laurent Nexhipi, 23, o Stanleytown, eu harestio ar ôl i'r heddlu ddarganfod 2kg o ganabis yn y cerbyd.
Cafodd trydydd dyn, Gjin Kronaj, 31, o Gaerlŷr, a oedd wedi gosod y canabis yn y cerbyd, ei ddarganfod yn y cyfeiriad a ddaeth allan ohono, ac yn dilyn chwiliad daethpwyd o hyd i 6kg arall o ganabis y tu mewn. Cafodd Kronaj ei arestio.
Cafodd y tri dyn eu cyhuddo a'u cadw yn y ddalfa nes eu dyddiad yn y llys.
Yr wythnos diwethaf, plediodd y tri dyn yn euog i feddu ar gyffuriau Dosbarth B - canabis gyda'r bwriad o'u cyflenwi ac fe'u dedfrydwyd yn Llys y Goron Caerdydd i'r canlynol:
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Ryan Herbert o'r Uned Troseddau Cyfundrefnol:
"Gobeithio y bydd yr achos hwn yn atgoffa unrhyw un sydd am wneud arian drwy werthu sylweddau anghyfreithlon yn ein cymunedau, y byddwch yn cael eich ymlid gan ein timau.
"Byddem yn cynghori unrhyw aelodau o'r cyhoedd sydd â phryderon am weithgarwch anghyfreithlon posibl i gysylltu â ni cyn gynted ag y gallant. Mae hyn yn helpu ni i darfu ar y mathau o weithrediadau yn gynt gan ddod â'r rhai sy'n gyfrifol i gyfiawnder."
Anogir unrhyw un sydd ag amheuon neu wybodaeth am achosion o gyflenwi cyffuriau anghyfreithlon i gysylltu â ni. Fel arall, gellir cysylltu â Crimestoppers yn gwbl ddienw ar 0800 555 111.
🗪 Sgwrs Fyw (9am-4pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener) https://www.south-wales.police.uk/
Rhoi gwybod ar-lein https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/riportio/riportio
E-bostiwch [email protected]
101
Ffoniwch 999 bob amser mewn argyfwng.