Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
09:53 04/01/2023
Ym mis Ebrill 2022, cynhaliodd swyddogion o'n Huned Troseddau Cyfundrefnol stop rhagweithiol ar ôl i rywfaint o gudd-wybodaeth ddod i law a wnaeth adnabod Morgan Bishop a Matthew Green fel pobl a oedd dan amheuaeth o gymryd rhan mewn cyflenwi cyffuriau a reolir yn nhref #Pontypridd.
Cafodd y ddau ddyn eu harestio a chwiliwyd eu cartrefi. Daeth y swyddogion o hyd i swm mawr o ganabis bwytadwy a suropau canabis, gwerth hyd at £7,080 ar y stryd a phaciau gwactod o flagur canabis gwerth hyd at £19,000 ar y stryd.
Roedd tystiolaeth ar ffôn symudol Bishop yn dangos ei fod yn cyflenwi cocên. Cafodd y ddau ddyn eu cyhuddo a'u cadw yn y ddalfa nes eu dedfrydu.
Dedfrydwyd Matthew Green, 38 oed o Aberdâr i flwyddyn a phedwar mis o garchar am feddu ar ganabis gyda'r bwriad o'i gyflenwi a meddu ar gocên ar 23 Medi yn Llys y Goron Merthyr.
Dedfrydwyd Morgan Bishop, 21 oed, o Graigwen, i dair blynedd a naw mis o garchar am ymwneud â chyflenwi cyffur Dosbarth A – cocên, ymwneud â chyflenwi cyffur Dosbarth B – canabis a meddu ar ganabis gyda'r bwriad o'i gyflenwi ar 7 Rhagfyr yn Llys y Goron Merthyr.