Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
13:43 23/02/2023
Mae dyn o Abertawe wedi cael ei garcharu am ei ran mewn gweithgarwch cyflenwi cyffuriau yng Nghymru.
Cafodd Thomas John, 26 oed, o Waun Wen, Abertawe, ei arestio gan swyddogion o Tarian, Tîm Troseddau Cyfundrefnol Rhanbarthol De Cymru, ym mis Ionawr 2023 a chafodd ddedfryd o dair blynedd yn y carchar yn Llys y Goron Abertawe yn gynharach y mis hwn.
Dangosodd tystiolaeth, gan gynnwys sgyrsiau ar ei ffôn symudol, fod John wedi bod yn dosbarthu cyffuriau Dosbarth A ledled de Cymru trwy gydol 2022.
Roedd eisoes wedi pledio'n euog i ymwneud â dosbarthu cocên, ecstasi a chetamin.
Mae'r achos o dan y Ddeddf Enillion Troseddau wedi dechrau yn erbyn John.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Jason Meadows:
“Rwy'n gobeithio y bydd y ddedfryd hon yn anfon neges gref i'r rhai sy'n credu eu bod uwchlaw'r gyfraith, ac sy'n ystyried bod gwerthu cyffuriau yn ffordd o wneud symiau sylweddol o arian yn gyflym.
“Mater o amser ydyw nes y bydd pobl fel Fletcher yn cael eu dal a byddwn yn gweithio'n ddi-baid, ochr yn ochr â'n heddluoedd lleol ac asiantaethau gorfodi'r gyfraith ledled y DU, i sicrhau hyn.
“Rydym yn annog unrhyw un ledled de Cymru sydd â gwybodaeth am achosion o ddelio cyffuriau yn eu cymunedau i gysylltu â'u heddlu lleol neu ffonio elusen annibynnol Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.”