Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Yn ystod yr wythnosau diwethaf, mae swyddogion o dîm plismona yn y gymdogaeth Maesteg wedi cynnal tair gwarant chwilio yn y cwm, gan atafaelu canabis â gwerth stryd posib o fwy na £250,000.
Mae pob un o'r rhain wedi'u cysylltu â grwpiau troseddau cyfundrefnol ac wedi arwain at bobl yn cael eu cyhuddo a'u cadw yn y ddalfa.
Yn aml, mae pobl yn sôn am gynhyrchu a defnyddio canabis fel trosedd heb ddioddefwyr, ond nid yw hynny'n wir. Mae troseddau cyfundrefnol y tu ôl i lawer o'r ffatrïoedd canabis hyn. Mae'r troseddwyr yn ennill llawer o arian ar draul ein cymunedau ac maen nhw'n gwarchod eu planhigfeydd gan ddefnyddio trais a bygythiadau.
Beth bynnag fo'ch safbwynt ar ganabis, gall y troseddau difrifol a chyfundrefnol, a'r masnachu mewn pobl sy'n gysylltiedig â'r ffatrïoedd achosi niwed go iawn i'n cymunedau ac ariannu troseddau pellach.
Diolch i'r wybodaeth a'r cymorth rydym yn eu cael gan ein cymunedau, mae eich tîm plismona yn y gymdogaeth, gan weithio ochr yn ochr ag adrannau arbenigol, wedi atafaelu dros 1800 o blanhigion canabis o'r fath leoliadau dros y 12 mis diwethaf, wedi arestio 10 unigolyn, gydag ymchwiliadau i eraill i fyny'r cadwyn sydd ynghlwm â'r achosion hyn yn mynd rhagddynt o hyd.
Arwyddion Rhybuddio Cynnar
Mae'r Grwpiau Troseddu Cyfundrefnol sy'n cynhyrchu canabis ar raddfa eang yn aml yn defnyddio eiddo rhent i ymbellhau oddi wrth weithgarwch anghyfreithlon. Maent hefyd yn defnyddio eraill i fod yn wyneb i'r gweithgarwch. Mae'r unigolion hyn yn ymddangos yn ddilys ac yn barchus, ac yn aml yn cyflwyno eu hunain fel rhywun sydd â theulu ac wedi cael swydd newydd yn yr ardal leol, ac eisiau rhentu eiddo i'w ddefnyddio eu hunain. Ar ôl iddynt gymryd meddiant o'r eiddo, byddant yn diflannu o'r golwg a bydd eraill yn cymryd eu lle er mwyn dechrau cynhyrchu canabis.
Byddwch yn ddrwgdybus os:
Arwyddion Amlwg
Mae rhai o'r arwyddion yn cynnwys:
Y Canlyniadau
Mae'r rhain yn cynnwys:
Datrysiadau
Fel perchennog eiddo/landlord/cwmni gosod, mynnwch eich bod yn ailymweld â'r eiddo ychydig wythnosau ar ôl i'r cytundeb gael ei lofnodi.
Mae'r cymdogion a'r cyhoedd yn cadw golwg a gallant roi gwybod am unrhyw amheuon.
I roi gwybod am ddigwyddiad cynhyrchu canabis posibl, ffoniwch Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555111, neu rhowch wybod yn uniongyrchol i Heddlu De Cymru drwy 101, wyneb yn wyneb, neu drwy ddefnyddio ein system rhoi gwybod ar-lein.
Er mwyn cael rhagor o wybodaeth am sut i adnabod arwyddion ffatri canabis, ewch i: https://crimestoppers-uk.org/keeping-safe/community-family/cannabis-cultivation
Gallwch roi gwybod am bryderon drwy un o'r ffyrdd canlynol:
💬 Sgwrs Fyw https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/
📞 101
📞 Ffoniwch Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555111
Mewn argyfwng, ffoniwch 999 bob amser
Am ragor o wybodaeth am ble i gael cymorth yn yr ardal, ewch i:
DASPA - DRUG & ALCOHOL SINGLE POINT OF ACCESS
DAN 247 – Llinell Gymorth Cyffuriau ac Alcohol Cymru