Stamp amser presennol: 03/02/23 19:05:10
OedRhybuddDienwApeliadauCeisiadauGwneud cais neu GofrestruAmlinelliad ardalSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fynyDrysau AwtomatigSaeth yn ôlBusnesCalendrArian parodSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fyny[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-chrome' for 'Welsh (United Kingdom)']ClocCaucysylltuCyfarwyddiadauDogfenLawrlwythoLluniaduCyffurEhanguDolen allanolFacebookHoffi ar FacebookSylw ar FacebookMath ffeil diofynMath ffeil DOCMath ffeil PDFMath ffeil PPTMath ffeil XLSCyllid[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-firefox' for 'Welsh (United Kingdom)']Cymorth cyntafFlickrTwyllRhoi adborthBydCi tywysIechydNam ar y clywDolen AnwythoGwybodaethInstagramIntercom[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-internet-explorer' for 'Welsh (United Kingdom)']GliniadurLifftLinkedinGweithgarwch lleolUchelseinyddCownter iselPostMapPin MapAelodaethDewislenDewislen[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-microsoft-edge' for 'Welsh (United Kingdom)']Pobl ar gollNam symud o gwmpasCenedligrwyddPwyntydd gogleddRadiws un milltirTrosolwgTudalennauAwyren bapurParcioPDFFfônPinterestChwaraeCadair dreigloAdnewydduRiportioCaisAilddechrau[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-rotate-clockwise' for 'Welsh (United Kingdom)']Rss[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-safari' for 'Welsh (United Kingdom)']ChwilioRhannuIaith arwyddionSnapchatDechrau etoYstadegauYstadegau a chyngor ar atalStopioTanysgrifioTargedTatŵsDweud wrthon ni amTicTumblrPedair awr ar hugainTwitterHoffi ar TwitterAteb ar TwitterAildrydar ar TwitterLanlwythoNam ar y golwgWhatsappCadair olwynionCymorth cadair olwynionParcio i gadair olwynionRamp i gadair olwynionTŷ bach i gadair olwynionYoutubeChwyddo mewnChwyddo allan

Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym

Neidio i’r prif gynnwys

Neidio i’r prif lywio

Croeso

Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.

Dechrau nawr

South Wales Police_ website_ left-hand Corner_ flat White Crest

Chwilio’r wefan hon

Prif ddewislen llywio

  • Riportio

    Yn ôl i Riportio

    • Trosedd
    • Riportio camdriniaeth ddomestig
    • Treisio, ymosod rhywiol a throseddau rhywiol eraill
    • Digwyddiad traffig ffyrdd
    • Riportio ymddygiad gwrthgymdeithasol
    • Person sydd ar goll
    • Twyll, llwgrwobrwyo neu lygredd
    • Anghydfodau sifil
    • Eiddo coll neu eiddo y daethpwyd o hyd iddo
    • Cerbydau ar goll neu wedi’u dwyn
  • Rhoi gwybod i ni

    Yn ôl i Rhoi gwybod i ni

    • Sut i roi gwybod i ni am weithgarwch terfysgol posibl
    • Sut i ddweud wrthym am rywbeth rydych chi wedi'i weld neu ei glywed
    • Achos neu adroddiad sy'n bodoli eisoes
    • Gorymdaith neu ddigwyddiad rydych yn ei gynllunio
    • Ffilmio
    • Llwythi annormal
  • Gwneud cais neu gofrestru

    Yn ôl i Gwneud cais neu gofrestru

    • Gyrfaoedd
    • Trwyddedau casglu ar gyfer elusennau
    • Digollediad i ddioddefwyr troseddau
    • Dystysgrif arf tanio, dryll neu ffrwydron
    • Mynd i wrandawiad camymddygiad
  • Cais

    Yn ôl i Cais

    • Gofyn am adroddiad ar wrthdrawiad
    • Sut i wneud cais am drwydded eiddo deallusol
    • Gwneud cais am eich olion bysedd
    • Gwybodaeth: am yr heddlu, amdanoch chi neu rywun arall
  • Diolchiadau a chwynion

    Yn ôl i Diolchiadau a chwynion

    • Gwneud cwyn
    • Dweud diolch
    • Adborth am y wefan
  • Eich ardal chi

Gwrandawiad Camymddwyn Carlam - PC Bellew

Cynnwys y prif erthygl

Llywio

Y diweddaraf

15:09 25/11/2022

Penderfyniad ar Ganlyniad

Roedd cyn Gwnstabl yr Heddlu 8176 James Bellew yn swyddog yr heddlu o dan hyfforddiant gyda Heddlu De Cymru ond ymddiswyddodd ar 24/06/2022.  Ni fynychodd cyn Gwnstabl Bellew y Gwrandawiad Camymddwyn Carlam hwn heddiw ond caiff ei gynrychioli gan ei Gynrychiolydd Ffederasiwn yr Heddlu, Mr Danny Ahearn.   Roedd cyfarwyddyd cyn Gwnstabl Bellew i Mr Ahearn yn gyfyngedig. Er bod Mr Ahearn wedi cyflwyno ymateb ysgrifenedig ar ran y cyn swyddog, fel sy'n ofynnol gan Reoliad 54 o Reoliadau (Ymddygiad) yr Heddlu 2020, mae'r ymateb yn nodi nad yw cyn Gwnstabl Bellew yn dymuno ymgysylltu â'r achos ac nad yw'n dymuno cael unrhyw gysylltiad pellach gan Mr Ahearn. O ganlyniad, nid yw cyn Gwnstabl Bellew wedi nodi'n benodol a yw'n cyfaddef i'r honiadau ai peidio nac a yw'n derbyn bod ei ymddygiad yn gyfystyr â chamymddwyn difrifol.

Fodd bynnag, rwyf wedi ystyried y dystiolaeth a gyflwynwyd ger fy mron yn llawn, ac nid yw cyn PC Bellew wedi herio'r honiad ei fod wedi torri'r Safonau Ymddygiad Proffesiynol.  Ceir pum honiad sy'n gysylltiedig â thorri'r Safonau Ymddygiad Proffesiynol mewn perthynas â Safon 2: Awdurdod, Parch a Chwrteisi a Safon 9: Ymddygiad Annheilwng.  Mae a wnelo pob honiad â chyfres o ddigwyddiadau a ddigwyddodd mewn digwyddiad cymdeithasol yng Nghaerdydd ar 21/05/2022, pan nad oedd cyn Gwnstabl Bellew ar ddyletswydd.

Yn fy marn i, gellir profi'r honiadau canlynol yn erbyn cyn Gwnstabl Bellew:

Honiad 1, - ei fod wedi ymddwyn mewn ffordd ymosodol ac amhriodol pan oedd yn feddw yn Boom Battle Bar, drwy daflu diod at grŵp o ddynion.

Honiad 2, - ei fod wedi ymddwyn yn amhriodol pan oedd yn feddw gan roi slap ar ben-ôl Cwnstabl yr Heddlu X o dan hyfforddiant pan oedd yn cerdded i dafarn Heidi's.

Honiad 3, - ei fod wedi ymddwyn mewn ffordd ymosodol ac amhriodol tuag at y grŵp o ddynion pan oedd yn feddw yn nhafarn Heidi's, yn dilyn y cais i dynnu llun.

Honiad 4, - ei fod wedi ymddwyn mewn ffordd ymosodol ac amhriodol pan oedd yn feddw yn Walkabout drwy fwrw tair jwg yn fwriadol oddi ar fwrdd yr oedd dau aelod o'r cyhoedd yn ei ddefnyddio, gan gynhyrfu'r aelodau hynny o'r cyhoedd. Ni wnaeth cyn Gwnstabl Bellew ymateb mewn modd derbyniol wrth iddynt ymliw ag ef.

Honiad 5, - ei fod wedi ymddwyn mewn ffordd ymosodol ac amhriodol pan yn feddw yn nhafarn Walkabout drwy ddadlau â dyn a gofynnwyd iddo adael y lleoliad gan y staff diogelwch.

Rwy'n bwriadu ystyried yr honiadau hyn gyda'i gilydd ac, ar y cyd, rwy'n fodlon bod yr ymddygiad yn gyfystyr â chamymddwyn difrifol.  Fy mhenderfyniad ar y Canlyniad yw fy mod yn fodlon y byddai cyn Gwnstabl Bellew wedi cael ei ddiswyddo pe na fyddai wedi ymddiswyddo. 

Wrth wneud fy mhenderfyniad, rwyf wedi ystyried Canllawiau'r Coleg Plismona ar Ganlyniadau mewn Gweithrediadau Camymddwyn yr Heddlu (argraffiad 2022) yn llawn, a dyna oedd sail fy nghasgliad.  Rwyf wedi profi difrifoldeb yr honiadau a diben gosod cosb, y mae'n rhaid i mi eu hystyried wrth wneud penderfyniad ar ganlyniad. Rwyf wedi rhoi ystyriaeth briodol i feiusrwydd, niwed, unrhyw ffactorau gwaethygol, ac unrhyw ffactorau lliniarol fel y'u nodir yn y Canllawiau.

Wrth asesu difrifoldeb yr achos o gamymddwyn, rwy'n cydnabod, po fwyaf beius yw'r ymddygiad dan sylw neu po fwyaf y gellir bwrw bai am ymddygiad o'r fath, y mwyaf difrifol yw'r achos o gamymddwyn a'r mwyaf difrifol fydd y canlyniad tebygol. Mae'r cyn swyddog wedi methu â dangos hunanreolaeth a goddefiant ac nid yw wedi trin un o'i gyd-swyddogion yr heddlu benywaidd nac aelodau o'r cyhoedd â pharch a chwrteisi. Mae ei weithredodd wedi dwyn anfri ar wasanaeth yr heddlu a gallent danseilio hyder y cyhoedd mewn plismona.

Mae'r niwed a achoswyd gan weithredoedd y cyn-swyddog yn cael effaith ar enw da'r heddlu ac yn effeithio ar wasanaeth yr heddlu ac ar hyder y cyhoedd yn y gwasanaeth yn gyffredinol.  Un o'r ffactorau pwysicaf yw effaith yr achos o gamymddwyn ar statws ac enw da'r proffesiwn cyfan. Rwy'n fodlon bod cyn Gwnstabl Bellew wedi achosi niwed i'r enw da hwnnw.

Rwyf wedi ystyried ffactorau gwaethygol wrth asesu difrifoldeb yr achos o gamymddwyn.  Wrth ymddwyn yn y fath fodd, camddefnyddiwyd ymddiriedaeth a statws. Rwyf yn ymdrin ag honiad 2 fel mater arbennig o ddifrifol. Cafodd un o swyddogion eraill yr heddlu ei slapio'n amhriodol ar ei phen-ôl gan y cyn swyddog ac mae hyn yn gwbl annerbyniol. Mae achos o gamymddwyn sy'n cynnwys ymddygiad amhriodol yn ddifrifol bob amser a gall danseilio hyder ac ymddiriedaeth y cyhoedd yng ngwasanaeth yr heddlu yn sylweddol. Mae'r ymddygiad hwn yn gwyro'n sylweddol oddi wrth gyfarwyddiadau gan gynnwys gorchmynion, polisi'r heddlu a chanllawiau cenedlaethol. 

O ran ffactorau lliniarol, dim ond am gyfnod byr y gwnaeth ymddwyn yn y fath fodd, ond rwy'n cydnabod bod y ffactorau lliniarol yn isel. Rwy'n cydnabod bod cyn Gwnstabl Bellew wedi nodi yn ei lythyr ymddiswyddo ei fod yn derbyn cyfrifoldeb llawn am ei weithredoedd ac nad oedd ei weithredoedd yn cyd-fynd â'r rheini a ddisgwylir gan un o swyddogion yr heddlu. Ymddiswyddodd o'r heddlu yn syth, ac felly mae wedi cymryd camau i leihau'r niwed a achoswyd.

Rwyf wedi atgoffa fy hun o ddiben triphlyg canlyniadau mewn gweithrediadau camymddwyn yr heddlu, sef cynnal hyder y cyhoedd mewn plismona ac enw da gwasanaeth yr heddlu, cynnal safonau uchel mewn plismona, atal achosion o gamymddwyn a, thrwy hynny, ddiogelu'r cyhoedd.

Fel cam olaf y broses o wneud penderfyniad ar ganlyniad, mae rhwymedigaeth arnaf i ystyried y canlyniad lleiaf difrifol wrth geisio cyflawni diben gweithrediadau camymddwyn yr heddlu.

Rwy'n fodlon bod yr achos hwn o gamymddwyn mor ddifrifol y byddai cyn Gwnstabl Bellew wedi cael ei ddiswyddo pe na fyddai wedi ymddiswyddo.

Ni chaiff y math hwn o ymddygiad ei dderbyn gan Heddlu De Cymru. Mae'r Safonau Ymddygiad Proffesiynol yn gymwys o'r eiliad y byddwch yn cerdded drwy'r drws. Ni chaiff y math hwn o ymddygiad llabystaidd sy'n dangos casineb at ferched ei oddef, boed ar ddyletswydd ai peidio, ac ni fyddai gennyf unrhyw amheuaeth wrth ddiswyddo'r cyn swyddog pe na fyddai wedi ymddiswyddo. Mae'n ffodus iawn, yn fy marn i, bod ymddygiad y cyn swyddog wedi dod i'r amlwg yn ystod ei gyfnod o dan hyfforddiant, a chyn iddo ddechrau ymgymryd â dyletswyddau lle byddai'n dod i gysylltiad â'r cyhoedd.

Mae'r mwyafrif llethol o swyddogion yr Heddlu, staff a gwirfoddolwyr sy'n gweithio i Heddlu De Cymru yn ymddwyn yn berffaith ac yn gweithio'n ddiflino i ddiogelu'r cyhoedd. Mae'r nifer brin iawn ohonynt sy'n dewis mynd yn groes i'r safonau a ddisgwylir ohonynt yn tanseilio hyder y cyhoedd mewn plismona. Ni chaiff y math hwn o ymddygiad ei dderbyn gan Heddlu De Cymru. 

Yn unol â Rheoliadau (Ymddygiad) yr Heddlu 2020, caiff Canfyddiadau a Chanlyniad y gwrandawiad hwn eu hatgyfeirio at y Coleg Plismona er mwyn i gyn Gwnstabl yr Heddlu 8176 James Bellew gael ei roi ar Restr Gwahardd yr Heddlu.

 

Rhannu

A oes rhywbeth o'i le ar y dudalen hon?

Llywio troedyn

Rydym yn defnyddio cwcis ar y wefan hon i roi profiad gwell, mwy personol i chi.

Rwy'n iawn gyda chwcis Rwyf am olygu'r cwcis

Heddlu De Cymru

  • Cysylltu â ni
  • Dewch o hyd i orsaf heddlu
  • Eich ardal chi
  • Amdanom ni
  • Gyrfaoedd
  • Newyddion
  • Ymgyrchoedd
  • Hysbysiad Preifatrwydd
  • Telerau ac amodau
  • Cwcis
  • Hygyrchedd

Gwybodaeth a gwasanaethau

  • Cyngor a gwybodaeth
  • Cyngor atal troseddau
  • Ystadegau a data
  • Cyrchu gwybodaeth (FOI)
  • Riportio
  • Rhoi gwybod i ni
  • Gwneud cais neu gofrestru
  • Cais
  • Diolchiadau a chwynion

Partneriaid

  • Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu
  • Police.uk
  • Ask the Police

Iaith

  • English

Dilynwch ni ymlaen

© Hawlfraint 2023. Cedwir pob hawl.