Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
13:26 30/11/2022
Mae Michael Turner wedi cael ei ddedfrydu i dros flwyddyn yn y carchar wedi iddo achosi difrod llwyr mewn ystafell yr oedd yn aros ynddi yng Ngwesty Heritage ym Mhorthcawl.
Achosodd y gŵr 52 oed werth bron i £49,000 o ddifrod wrth iddo chwalu bwrdd pren, wardrob, a gwresogydd.
Chwalodd Turned sgrin wydr y gawod hefyd a gorlifo'r ystafell, gan achosi difrod i'r ystafelloedd islaw a'r system electrig.
Amcangyfrifir y bydd yn costio bron £49,000 i wneud y gwaith atgyweirio.
Gwnaethom ymateb i'r adroddiad am y difrod sylweddol a achoswyd a dod o hyd i Turner yn y gwesty lle cafodd ei arestio.
Ddoe (dydd Mawrth 29 Tachwedd) cafodd Turner ei ddedfrydu yn Llys y Goron Caerdydd i 14 mis a hanner yn y carchar.
Diolch i ymateb cyflym cyflym ein swyddogion, llwyddwyd i ddal Turner yn y fan a'r lle.
Dywedodd PC Gatt:
“Achosodd Michael Turner ddifrod a dinistr enfawr wedi iddo chwalu'r ystafell westy yr oedd yn aros ynddi.
“Dangosodd amharch llwyr tuag at fywoliaeth y perchnogion, gan greu gwerth miloedd o bunnoedd o ddifrod.
“Mae sawl busnes yn wynebu misoedd caled yn sgil yr argyfwng costau byw ac yn gweithio'n galed i ddarparu cyfleusterau i'n cwsmeriaid eu mwynhau.
“Felly mae'n arbennig o siomedig bod Turner wedi penderfynu cyflawni'r drosedd hon ac rydym yn falch o'r canlyniad hwn a byddwn yn parhau i ddwyn pobl fel Turner o flaen eu gwell.”