Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
14:46 29/11/2022
Mae cryn dipyn i'w ddathlu gyda Chymru yng Nghwpan y Byd pêl-droed am y tro cyntaf ers 64 mlynedd a chyfnod y Nadolig ar y trothwy.
Ond mae swyddogion yng Nghymru'n atgoffa pobl sy'n edrych ymlaen at noson allan i beidio â chymryd y llyw ar ôl yfed neu gymryd cyffuriau.
Mae pedwar heddlu Cymru – Heddlu Gogledd Cymru, Heddlu Gwent, Heddlu De Cymru a Heddlu Dyfed-Powys – wedi lansio eu Hymgyrch Gyrru Dan Ddylanwad Alcohol a Chyffuriau dros y Nadolig yn gynharach er mwyn cwmpasu Cwpan y Byd.
Dywedodd ACC Mark Travis o Heddlu De Cymru, mai'r rheswm dros yr ymgyrch oedd ceisio atal marwolaethau diangen oherwydd gyrwyr anghyfrifol sy'n torri'r gyfraith.
Ychwanegodd: “Ar ôl rhai blynyddoedd anodd, bydd pobl yn edrych ymlaen at fwynhau eu hunain y Nadolig hwn. Mae'r heddlu'n awyddus i bawb gael Cwpan y Byd, Nadolig a Blwyddyn Newydd diogel a llawn mwynhad.
“Rydym yn atgoffa aelodau o'r cyhoedd y gall cymryd y llyw dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau arwain at ganlyniadau enbyd.
“Dydyn ni ddim yn sôn am golli trwydded yn unig, sy'n arwain yn aml at golli gwaith, mae gyrru dan ddylanwad yn arwain at ormod o wrthdrawiadau difrifol ac angheuol o lawer. Gall hyn arwain at garchar a goblygiadau i deuluoedd lawer."
Bydd yr amser y mae'n ei gymryd i restru materion yfed a gyrru i'r llys yn cael ei dorri i saith diwrnod dros gyfnod yr ŵyl wrth i Heddlu De Cymru fynd i'r afael â'r rhai sy'n gyrru dan ddylanwad alcohol.
Ar hyn o bryd, mae'n cymryd 28 diwrnod i faterion yfed a gyrru gael eu rhestru i'r llys. Bydd pedwar heddlu Cymru'n gweld y newid yn cael ei roi ar waith mewn ymgais i atal pobl rhag cymryd y llyw ar ôl yfed alcohol.
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru yn ariannu ymgyrch Gan Bwyll yn rhannol gyda'r nod o addysgu ynghylch peryglon yfed a gyrru.
Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru, Alun Michael:
“Mae car yn y dwylo anghywir yn arf marwol a bydd y rhai sy'n dewis cymryd y llyw dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau yn rhoi eu bywyd eu hunain, bywydau teithwyr ac wrth gwrs, bywydau defnyddwyr eraill y ffordd mewn perygl.
“Mae ymgyrchoedd plismona'n rhan bwysig o gadw ein ffyrdd yn ddiogel ond, yn y pen draw, rhaid i bobl gymryd cyfrifoldeb personol a gwneud y dewis iawn.
“Fy neges i bawb yw rhoi synnwyr cyffredin, diogelwch a'r gyfraith yn gyntaf, yn anad dim.”
Cafodd 299 eu harestio am yfed a gyrru a 202 arall am yrru dan ddylanwad cyffuriau yn ystod ymgyrch gyrru dan ddylanwad alcohol a chyffuriau llynedd rhwng 1 Rhagfyr 2021 ac 1 Ionawr 2022.
Gwnaed bron i 100 o'r arestiadau hynny - 85 am yfed a gyrru ac 14 am yrru dan ddylanwad cyffuriau – yn dilyn gwrthdrawiadau traffig ffyrdd.
Dechreuodd yr ymgyrch chwe wythnos estynedig eleni yn erbyn gyrru dan ddylanwad, ddydd Llun, 21 Tachwedd, er mwyn cwmpasu cyfnod Cwpan y Byd, a bydd swyddogion ledled y wlad yn defnyddio tactegau a arweinir gan ddata a gwybodaeth leol am leoedd problematig er mwyn canfod pobl sy'n gyrru dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau dros gyfnod yr ŵyl.
Gofynnir i unrhyw un sydd â phryderon am unrhyw un y credir eu bod yn gyrru dan ddylanwad i gysylltu â'r heddlu ar 101 (neu 999 os ydynt yn achosi perygl uniongyrchol), neu cysylltwch â Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.