Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
11:07 16/11/2022
Mae James Perry, 33 oed, wedi cael ei ddedfrydu i 20 mis yn y carchar am ddifrod troseddol; trosedd trefn gyhoeddus adran 4; ymosod ar weithiwr gwasanaeth brys a bygwth person ag eitem lafnog mewn man preifat.
O gwmpas 8am ddydd Mercher 28 Medi, ymatebodd PC Pontin a PC White i adroddiad am helynt mewn cyfeiriad yn Sandfields, Port Talbot. Tra roeddent yno, siaradodd y swyddogion â James Perry er mwyn canfod beth oedd wedi digwydd ac esbonio na fyddai'n gallu aros yn y cyfeiriad oherwydd yr helynt.
Yn dilyn hyn, aeth yn ymosodol a gwrthod gadael, gan wthio'r ddau swyddog yn eu brest cyn rhedeg i lawr y grisiau i'r gegin gyda'r swyddogion yn ei ddilyn.
Gan ddal cyllell gegin fawr, cododd James Perry ei fraich a phwyntio'r gyllell tuag at PC Pontin gan ddod tuag ati hi. Gafaelodd yn y gyllell ag un llaw a chydiodd yn ysgwydd PC Pontin â'r llaw arall. Gan ofni y byddai'r gyllell yn cael ei defnyddio yn ei herbyn, taflodd PC Pontin ei hun am yn ôl gan beri iddi gwympo i'r llawr. Llwyddodd PC White i atal Perry drwy ymyrryd â gwn Taser. Yna daliodd Perry y gyllell wrth ei wddf ac, er iddynt ddweud wrtho am ollwng y gyllell, gwrthododd wneud hynny ac, o ganlyniad, cafodd ei daseru a'i arestio gan y swyddogion wedi hynny.
Dywedodd y Prif Arolygydd James Ratti: “Mae'r fideo o'r camerâu a wisgir ar y corff gan swyddogion yn dangos y peryglon y gall swyddogion eu hwynebu unrhyw bryd.
“Mae swyddogion yr heddlu yn mynd y tu hwnt i'w dyletswyddau i amddiffyn pobl ac ni ddylid ymosod arnynt na'u sarhau ar lafar o dan unrhyw amgylchiadau. Mae'r mwyafrif helaeth o'r cyhoedd yn cefnogi gwaith ein swyddogion a bydd y fideo yn destun braw iddynt, yn ddealladwy.
“Rwy'n hynod falch o broffesiynoldeb a dewrder PC Pontin a PC White wrth ymdrin â'r digwyddiad hwn”.