Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
12:06 20/12/2022
Mae teulu Jamie Moreno, sydd ar goll, yn apelio am wybodaeth wrth iddynt wynebu eu trydydd Nadolig hebddo.
Gwnaeth Jamie adael ei gartref yn y Rhath, Caerdydd, o amgylch amser cinio ddydd Llun, 23 Mawrth 2020 ac fe'i gwelwyd ddiwethaf gan gyfaill yn Llanedeyrn yn hwyrach y prynhawn hwnnw.
Credir bod Jamie wedi gadael ei gartref yn The Parade rywbryd ar ôl 1.15pm a chafodd ei weld gan gyfaill o amgylch 2.45pm yn nes ymlaen y diwrnod hwnnw ar Ffordd Llanedeyrn.
Mae teledu cylch cyfyng gan ysgol gerllaw yn cadarnhau hyn fel y tro olaf iddo gael ei weld.
Roedd ei ffôn a'i waled gydag ef, ond nid yw ei gardiau banc wedi cael eu defnyddio ers y diwrnod hwnnw sy'n achosi pryder.
Mae Jamie yn tua 5ft 9 ac yn gwisgo het beanie fel arfer.
Efallai fod ganddo farf ar yr adeg yr aeth ar goll.
Mae ei deulu yn dweud fod ganddo ffordd arbennig o gerdded a fyddai'n cael ei adnabod gan y rhai a oedd yn ei adnabod.
Dywedodd Arolygydd Unigolion Coll Heddlu De Cymru, PC Andy Ryan:
“Unwaith eto mae hwn yn gyfnod anodd iawn i deulu Jamie sydd heb roi'r gorau ar obeithio cael dod o hyd iddo.
“Os ydych chi wedi gweld Jamie, neu os ydych chi'n gwybod ble mae, cysylltwch â ni.”
Gofynnir i unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â Heddlu De Cymru gan ddefnyddio un o'r rhifau cyfeirnod: 2000102586.
Mewn argyfwng, ffoniwch 999 bob amser.