Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
14:18 29/12/2022
Mae pum dyn, a oedd yn rhan o Grŵp Troseddau Cyfundrefnol (OCG) wedi cael eu carcharu ar ôl darganfod ey bod yn rhan o fasnachu a mewnfudo cilogramau o gyffuriau dosbarth A a B ledled y DU.
Ymchwiliad a gynhaliwyd gan Uned Cudd-wybodaeth a Throseddau Cyfundrefnol Heddlu De Cymru oedd Ymgyrch Wizard, a hynny i weithgareddau masnachu mewn cyffuriau Shane White a'i grŵp troseddau cyfundrefnol.
White, sy'n 34 oed o Bort Talbot, oedd pennaeth yr OCG a chafodd llawer o'r cocên y bwriadodd ei fewnfudo a'i gyflenwi ei ddosbarthu ar strydoedd De Cymru.
Cafodd cilogram o gocên ei adfer o ddyfais symudol White, a geo-leolwyd yn un o'i gyfeiriadau, a'i adnabod fel y cownter cegin yn y cyfeiriad.
Roedd White yn gweithio mewn partneriaeth â Steven Semmens, 39 oed o Bort Talbot, ond roedd wedi'i leoli yn Sbaen am y rhan fwyaf o'r cyfnod cynllwynio.
Swydd Semmens oedd cyfeirio nifer enfawr o gocên gan ei gyd-droseddwyr cartelau cyffuriau Colombiaidd tra yn Sbaen. Byddai'n anfon clipiau fideo yn ôl at White yn y DU o gocên, weithiau mewn symiau o fwy na 50 kg ar y tro. Aeth y clipiau fideo hyn ymlaen i gael ei defnyddio i hysbysebu'r cocên ar werth yn y DU.
5kg o gocên, gyda'r logo ‘Ace of Spades’ wedi'i siapio ynddo, a anfonwyd oddi wrth Semmens yn Sbaen at Shane WHITE yn y DU fis Awst 2021, 2 ddiwrnod cyn arestio Shane White. ‘Elvis’ oedd ffugenw White ar lwyfannau negeseuon wedi'u hamgryptio.
9kg o gocên, gyda logo Batman wedi'i siapio ynddo, a anfonwyd oddi wrth Semmens at White fis Rhagfyr 2020.
Roedd gan White sawl cwsmer posibl ar gyfer y cocên a fewnforiwyd, gan drafod llwybrau cludo er mwyn i'r Cocên gyrraedd y DU o Sbaen, drwy Amsterdam neu Rotterdam yn yr Iseldiroedd yn aml.
Hwylusodd Richard Gerrard, 43 oed o Gaerhirfryn, y cyflenwad cocên i White yn ne Cymru, pan fyddai stoc White yn mynd yn brin.
Un o gwsmeriaid eraill White oedd Andrew Botto, 34 oed o Abertawe. Roedd Botto yn bennaeth ar ei grŵp ei hun gyda sail cwsmeriaid ar wahân yn Abertawe. Dilynodd swyddogion cudd o Heddlu De Cymru Botto ar sawl achlysur rhwng mis Ionawr a Mawrth 2021, pan fynychodd storfan ar Deras Penfilia, Abertawe. Pan arestiodd y swyddogion Botto fis Mai 2021, gwnaethant archwilio'r storfa yr oedd wedi bod ynddi, a chanfod Cilogram o gocên, gyda phecyn yn cynnwys mymryn o Gocên, yn gyson gyda Chilogram arall o Gocên. Roedd Botto yn gysylltiedig â'r storfa hon a'r Cocên yn fforensig.
Cilogram o gocên y daethpwyd o hyd iddo yn storfa Botto fis Mai 2021.
Andrew Botto yn teithio i'w storfa yn Nheras Penfilia, Abertawe ac yn arod yno, fis Ionawr 2021.
Defnyddiodd White a Semmens eu cludwr, Ieuan Williams, 37 oed o Bort Talbot i gludo eu pecynnau cilogram o gocên at eu cwsmeriaid. Roedd gan Williams hefyd y dasg o gasglu dyledion ar ran White.
Canfuwyd bod White, Semmens a'u OCG wedi cynllwynio gyda'i gilydd i fewnforio 10 Cilogram o Gocên i'r DU, a chyflenwi 8 Cilogram ychwanegol yn ardal De Cymru y gwnaethant ddod o hyd iddo yn y DU. Roedd y mwyafrif o'r cocên i gael ei gyflenwi ar strydoedd De Cymru. Ar y cyd, byddai i'r 18 Cilogram o Gocên werth stryd amcangyfrifedig o rhwng £2 Miliwn a £2.5 Miliwn yn y DU.
Yn ogystal â Chocên, roedd White yn rhan o'r busnes proffidiol o fewnforio a chyflenwi Canabis dosbarth B yn ardal De Cymru. Un o'i ddelwyr stryd oedd Luke Thomas, 23 oed, o Ben-y-bont ar Ogwr, De Cymru.
Ddydd Iau 29 Rhagfyr 2022 yn Llys y Goron Abertawe, derbyniodd yr unigolion canlynol gyfanswm o 52 o flynyddoedd ac 1 mis yn y ddalfa:
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Russ Jenkins o Uned Cudd-wybodaeth a Throseddau Cyfundrefnol yr Heddlu “Roedd hwn yn ymchwiliad cymhleth a hirfaith, a arweiniodd at erlyn sawl troseddwr cyfundrefnol yn llwyddiannus.
“Roedd y we o gynllwynwyr wedi'u gwasgaru yn eang, yn croesi ffiniau cenedlaethol a chyfandiroedd. O ganlyniad uniongyrchol i'r ymchwiliad hwn, mae Heddlu De Cymru wrthi o hyd yn ymgysylltu'n weithredol â Heddluoedd eraill yn y DU a'r Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol, ynghyd â'n partneriaid rhyngwladol i darfu ar weithgareddau'r rhai sy'n ceisio gwerthu Cocên ar strydoedd De Cymru a'r DU yn ehangach.
“Rydym yn ymrwymedig i fynd i'r afael â'r troseddwyr cyfundrefnol mwyaf difrifol sy'n effeithio ar ein cymunedau. Hoffwn annog y cyhoedd i gysylltu â ni gydag unrhyw wybodaeth sydd ganddynt. Efallai mai dyna'r darn allweddol o'r jig-so i'n helpu i erlyn y troseddwyr difrifol a chyfundrefnol hyn.”