Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
14:28 13/06/2022
Mae dyn 21 oed o Abertawe wedi ymddangos gerbron Llys y Goron Merthyr Tudful heddiw (dydd Llun 13 Mehefin) i'w ddedfrydu am gyfres o droseddau rhywiol yn erbyn plant.
Mae Krzystof Abramowicz wedi pledio'n euog i 25 achos o droseddau rhywiol yn erbyn 25 o blant mor ifanc â 9 mlwydd oed. Mae wedi cael ei ddedfrydu i bedair blynedd ac wyth mis yn y carchar.
Canfu ditectifs o Tarian, Uned Troseddau Cyfundrefnol ranbarthol de Cymru, fod Abramowicz yn targedu plant ar-lein yn ardaloedd Gwent a de Cymru yn y lle cyntaf. Creodd Abramowicz broffiliau ffug soffistigedig i esgus bod yn ferch 13 mlwydd oed, gan ddenu plant i gyflawni gweithredoedd rhywiol drwy ddefnyddio apiau ffôn symudol poblogaidd fel Snapchat ac Instagram.
Canfu swyddogion o dîm ar-lein cudd Tarian pwy oedd Abramowicz a'i fod yn teithio'n rheolaidd rhwng de Cymru a Gwlad Pwyl.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd David Bancroft o Tarian: “Mae'r achos hwn yn dangos pwysigrwydd partneriaeth waith gref rhwng Tarian a Heddlu De Cymru a'n blaenoriaeth i ddiogelu plant.”
Trosglwyddodd Tarian y wybodaeth i Dîm Ymchwiliadau Ar-lein Heddlu De Cymru (POLIT), a arestiodd y diffynnydd yn syth yn ei weithle.
O ganlyniad i ymchwiliad cymhleth a thrylwyr gan dditectifs o POLIT, cafwyd ple euog cynnar a dedfryd heddiw.
Ychwanegodd y Ditectif Arolygydd Bancroft:
“Mae mynd i’r afael ag achosion o gamfanteisio’n rhywiol ar blant ar-lein yn flaenoriaeth genedlaethol i wasanaethau gorfodi’r gyfraith, ac rydym yn mynd ar ôl mwy o droseddwyr ac yn diogelu mwy o blant nag erioed o’r blaen. Cafodd pob plentyn a nodwyd gymorth gan swyddogion sydd wedi'u hyfforddi'n arbennig o Heddlu De Cymru.
“Ni all yr heddlu stopio'r galw am ddelweddau cam-drin plant ar ei ben ei hun ac mae angen gwneud mwy i atal camdriniaeth yn y lle cyntaf.
“Mae angen gwneud rhagor o waith i sicrhau bod llai o ddelweddau ar gael, darparu cymorth i bobl sydd â diddordeb rhywiol amhriodol mewn plant ac i wella dealltwriaeth o'r risgiau o gymryd delweddau anweddus o blant a'u dosbarthu.
"Mae sefydliadau fel Sefydliad Lucy Faithful yn hollbwysig wrth helpu pobl a sicrhau bod y gwasanaethau priodol ar gael iddynt. Dylai pobl sy'n edrych ar ddelweddau amhriodol neu sydd â diddordeb mewn gwneud hynny stopio a ffonio llinell gymorth Stop It Now Lucy Faithful ar 0808 1000 900.”
Dylai unrhyw un sy'n poeni am weithgarwch eu plentyn ar-lein gysylltu â'r Heddlu ar 101.