Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
16:19 08/09/2022
Mae dyn 37 oed wedi cael ei garcharu am droseddau twyll yn dilyn ymchwiliad gan Uned Troseddau Economaidd a Seiberdroseddau Heddlu De Cymru (ECCU).
Ar ddechrau 2021, cysylltodd y Ganolfan Twyll Yswiriant (IFB) â'r Uned Troseddau Economaidd a Seiberdroseddau i roi gwybod eu bod wedi derbyn nifer o adroddiadau am hawliadau twyllodrus gan gwmnïau yswiriant ceir. Galluogodd yr ymchwiliad i'r polisïau i'r heddlu gysylltu ag Osman Hamasharzad, o Adamsdown, Caerdydd.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Lynda Nelson:
“Roedd yn ymchwiliad o dwyll hir a chymhleth. Fodd bynnag, gyda chydweithrediad y cwmnïau yswiriant a'r IFB, roeddem yn gallu profi bod Hamasharzad wedi agor cyfrif banc a pholisi yswiriant modur o dan enw ffug. Roedd ganddo drwydded yrru yn ei hunaniaeth ffug i alluogi hyn.
“Defnyddiodd yr hunaniaeth ffug yma i osgoi collfarn foduro hefyd.”
Cafodd Hamasharzad ei gyhuddo o drosedd yn groes i'r Ddeddf Dogfennau Adnabod 2010, dwy drosedd o dwyll yn dilyn ffug gynrychiolaeth yn groes i'r Ddeddf Twyll 2006 ac un o wyrdroi cwrs cyfiawnder, yn groes i'r gyfraith gyffredin.
Cafodd Hamasharzad ei garcharu am 16 mis yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Iau 8 Medi wedi iddo bledio'n euog i'r holl droseddau.
Dywedodd Ben Fletcher, Cyfarwyddwr y IFB:
“Dydy twyll yswiriant ddim yn drosedd heb ddioddefwyr – mae'n achosi cost ariannol enfawr i ddefnyddwyr gonest. Rydym yn hynod falch o glywed fod ein cydweithio â Heddlu De Cymru a'r yswirwyr yn golygu fod yr unigolyn hwn wedi cael ei ddal a'i garcharu. Gobeithio y bydd hyn yn rhybudd clir i unrhyw un sy'n ystyried gwneud hawliad yswiriant twyllodrus yswiriant y byddent yn cael eu dal.”