Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
12:10 16/03/2022
Mae elusen Crimestoppers wedi lansio apêl newydd am wybodaeth ddienw i ddod o hyd ar frys i gar a dau ddyn sy'n gysylltiedig â llofruddiaeth Tomasz Waga yng Nghaerdydd.
Bydd y wobr o hyd at £10,000 ar gael i unrhyw un sy'n rhoi gwybodaeth i Crimestoppers yn unig a fydd yn arwain at ddod o hyd i gar Mercedes ac at arestio Artan Pallucci, 29 oed, y mae ei gyfeiriad hysbys diwethaf yn Cathays, Caerdydd, ac Elidon Elezi, 22 oed, y mae ei gyfeiriad hysbys diwethaf yn East Finchley, Llundain.
Cafodd corff Tomasz, a oedd yn 23 oed, ei ddarganfod gan aelod o'r cyhoedd ar Westville Road, Pen-y-lan, yn hwyr nos Iau 28 Ionawr 2021.
Roedd wedi dioddef ymosodiad a bu farw o'i anafiadau y diwrnod hwnnw. Credir ei fod wedi teithio o Dagenham, dwyrain Llundain i Heol Casnewydd, Caerdydd.
Mae pedwar dyn eisoes wedi cael eu cyhuddo mewn cysylltiad â marwolaeth Tomasz ac mae nifer o gerbydau wedi cael eu hatafaelu fel rhan o'r ymchwiliad.
Serch hynny, nid yw'r car arian/llwyd Mercedes C200 Sport gyda'r rhif cofrestru BK09 RBX wedi cael ei ddarganfod eto.
Cafodd ei weld ddiwethaf yng Nghaerdydd ar y diwrnod y cafodd corff Tomasz ei ddarganfod. Rydym yn ceisio gwybodaeth am ei symudiadau ers dydd Iau 28 Ionawr 2021, a'i leoliad presennol.
Mae perchennog cofrestredig blaenorol y cerbyd yn byw yn ardal y Tyllgoed yng Nghaerdydd, ac nid yw'n gysylltiedig â'r ymchwiliad hwn o gwbl.
Dywedodd Mick Duthie, Cyfarwyddwr Gweithrediadau elusen Crimestoppers: “Rydym yn apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth am yr unigolion hyn y mae'r heddlu yn awyddus i'w dal a'r cerbyd arian Mercedes C200 i gysylltu â ni , yn gwbl ddienw, cyn gynted â phosibl. Hoffem weld anwyliaid Tomasz yn cael cyfiawnder.
“Mae'n bwysig bod yn glir y gall helpu unrhyw un y mae'r heddlu yn awyddus i'w gwestiynu am drosedd arwain at erlyniad. Mae ein helusen yma i bobl sy'n teimlo na allant siarad â'r heddlu yn uniongyrchol. Rydym yn annibynnol ar yr heddlu ac yn cynnig dewis amgen i roi gwybod am drosedd. Ers 1998, pan sefydlwyd Crimestoppers, rydym bob amser wedi cadw ein haddewid i gadw'r miliynau o bobl sydd wedi ymddiried ynom gyda'u gwybodaeth am drosedd, yn ddienw.
“Gwyddom fod y car Mercedes wedi'i weld ar deledu cylch cyfyng yn ardal Cathays yng Nghaerdydd ar 28 Ionawr. Mae'n bosibl bod y car wedi cael ei werthu, bod ganddo rif cerbyd gwahanol neu ei fod wedi cael ei losgi yn rhywle. Mae rhywun yn gwybod beth sydd wedi digwydd iddo. Rydym yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth i wneud y peth iawn a chysylltu â ni. Gallwch gysylltu â'n Canolfan Gyswllt yn y DU, sydd ar agor 24/7, ar radffôn 0800 555 111, neu gallwch ddefnyddio ein ffurflen ar-lein ddienw syml a diogel ar www.crimestoppers-uk.org. Ni fydd neb yn gwybod eich bod wedi cysylltu â ni a byddwch yn gwneud y peth iawn.”
***Ni fydd gwybodaeth a roddir yn uniongyrchol i'r heddlu yn gymwys ar gyfer gwobr. Dim ond gwybodaeth a rhoddir i Crimestoppers drwy ddefnyddio'r ffurflen ar-lein ddienw na ellir ei holrhain ar www.crimestoppers-uk.org neu drwy ffonio'r rhif rhadffôn 0800 555 111 fydd yn gymwys***
Noder: Ni chaiff cyfeiriadau IP byth eu holrhain yn Crimestoppers ac ni fydd neb byth yn gwybod eich bod wedi cysylltu â'r elusen. Ni ellir gweld rhif y person sy'n ffonio, nid oes cyfleuster 1471 ac nid yw galwadau byth wedi cael eu holrhain.