Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
10:53 18/03/2022
Yr wythnos ddiwethaf (7-13 Mawrth), cymerodd Heddlu De Cymru, gyda chymorth Tarian, yr Uned Troseddau Cyfundrefnol Ranbarthol, amrywiaeth o gamau gweithredu fel rhan o Wythnos Dwysáu Gwaith ar Linellau Cyffuriau.
Nod yr wythnos hon oedd targedu masnachwyr cyffuriau sydd yn aml yn recriwtio plant ac oedolion sy'n agored i niwed i gyflenwi cyffuriau ledled y wlad.
Fel rhan o'r gwaith, gwnaeth Heddlu De Cymru:
Math o drosedd gyfundrefnol yw Llinellau Cyffuriau pan gaiff cyffuriau anghyfreithlon eu cludo o un ardal i'r llall, fel arfer gan blant neu oedolion sy'n agored i niwed sy'n cael eu gorfodi i wneud hynny gan gangiau. Mae'r ‘llinell’ yn cyfeirio at y ffôn symudol a ddefnyddir i gymryd archebion ar gyfer cyffuriau. Yn draddodiadol, mae hyn wedi cael ei wneud ar draws ffiniau heddluoedd a siroedd, ond gall yr un fethodoleg gael ei mabwysiadu o fewn ffiniau lleol.
Nod wythnosau dwysáu gwaith cenedlaethol fel yr un ddiweddaraf yw targedu troseddwyr a sicrhau bod ein cymunedau yn lleoedd digroeso i gangiau troseddol. Ond yn ogystal â hynny, y nod yw diogelu pobl sy'n agored i niwed sydd yn aml yn cael eu gorfodi i werthu cyffuriau naill ai mewn rhannau anghyfarwydd o'u hardaloedd lleol, neu mewn trefi a siroedd cwbl newydd.
Dywedodd y Ditectif Uwch-arolygydd Mark Kavanagh, Pennaeth Cudd-wybodaeth a Throseddau Cyfundrefnol yr Heddlu:
“Mae Llinellau Cyffuriau yn fath o gamfanteisio troseddol, lle mae gangiau trefol yn darbwyllo, yn cymell neu'n gorfodi plant a phobl sy'n agored i niwed i roi eu hunain mewn sefyllfaoedd anghyfforddus ac anghyfreithlon.
“Rydym yn deall yn llwyr y boen y mae'r fasnach gyffuriau yn ei pheri i bobl sy'n agored i niwed, teuluoedd a chymunedau ledled de Cymru, a byddwn bob amser yn gweithio'n ddiflino i fynd i'r afael â hyn.
“Byddwn yn parhau i weithio gyda'n cydweithwyr mewn heddluoedd eraill ac asiantaethau partner i fynd i'r afael â'r niwed y mae cyffuriau anghyfreithlon yn ei wneud i'n cymunedau."
Ychwanegodd y Ditectif Arolygydd Richard Weber o Tarian, yr Uned Troseddau Cyfundrefnol Ranbarthol, sy'n Gydgysylltydd Llinellau Cyffuriau:
“Mae swyddogion o bob un o'r tri heddlu yn ne Cymru, yn ogystal â phartneriaid yn yr Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig a'r Ganolfan Cydgysylltu Llinellau Cyffuriau Genedlaethol wedi cymryd rhan yn y cyfnod dwysáu hwn, er mwyn gwneud yn siŵr bod ein trefi a'n siroedd yn lleoedd digroeso i gangiau troseddol a bod cymorth yn cael ei roi hefyd i'r rhai sy'n cael eu twyllo gan bobl sy'n meithrin perthynas amhriodol â nhw, neu'n sy'n destun cogio a mathau eraill o gamfanteisio.
“Nid yw'r gwaith yn dechrau nac yn gorffen yn ystod yr wythnosau hyn, rydym bob amser yn gweithio i atal gangiau troseddol y mae eu bwriadau yn peri niwed meddyliol a chorfforol gydol oes i bobl sy'n agored i niwed.”