Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn 54 oed o'r Barri wedi'i ddedfrydu ar ôl iddo ffoi o leoliad gwrthdrawiad a cheisio cuddio ei ôl.
Ar 5 Rhagfyr 2020, ychydig cyn 4.10am, cawsom ein galw gan y Gwasanaeth Ambiwlans ar ôl i feddyg a oedd yn mynd heibio ddod o hyd i fachgen 16 oed wrth ochr y ffordd ar Port Road East, y Barri, gydag anafiadau difrifol ar ôl cael ei daro gan gar.
Ni stopiodd gyrrwr y car, Colin Williams, ar ôl taro'r dioddefwr ac, yn lle hynny, gadawodd y bachgen 16 oed, gyrrodd adref i archwilio ei gerbyd ac yna gyrrodd yn ôl i leoliad y gwrthdrawiad yr oedd yn gwybod ei fod wedi bod yn rhan ohono.
Yn lle rhoi gwybod ei fod wedi bod yn rhan o'r digwyddiad, gyrrodd adref unwaith eto ac aeth â'i gar i ganolfan atgyweirio i drwsio'r difrod a wnaed yn ystod y gwrthdrawiad.
Pan gyrhaeddodd swyddogion, y cyfan a oedd ar ôl yn lleoliad y gwrthdrawiad oedd rhai olion plastig o'r car Volkswagen yr oedd Williams yn ei yrru. Llwyddodd ditectifs i ddefnyddio'r darnau hyn o blastig i nodi union wneuthuriad a model y car, a'i flwyddyn yn fras. Ar y cyd ag archwiliad helaeth o ddeunydd CCTV, nodwyd mai car Williams oedd y cerbyd yn y gwrthdrawiad a daeth swyddogion o hyd iddo yn y ganolfan atgyweirio.
Cafodd ei arestio ar 9 Rhagfyr 2020.
Dywedodd y Ditectif Ringyll Lee Christer:
“Gadawodd Colin Williams fachgen 16 oed ar y ffordd gydag anafiadau a oedd yn peryglu ei fywyd yn ystod oriau mân y bore. Drwy lwc, roedd meddyg yn mynd heibio a allai gynnig y gofal a'r cymorth yr oedd eu hangen arno ar y pryd.
“Mae Williams wedi'i ddedfrydu heddiw, nid am fod yn rhan o wrthdrawiad traffig ffordd, ond am ei fod wedi mynd i drafferth i osgoi cael ei gysylltu ag ef. Gobeithio y gall eraill ddysgu o hyn a gwneud y penderfyniad cywir mewn sefyllfa fel hon.
“Hoffwn gydnabod pawb a fu'n rhan o'r ymchwiliad i'r digwyddiad hwn, a lwyddodd i ddwyn Williams gerbron y llys heb fawr ddim tystiolaeth ar wahân i ychydig o ddarnau o blastig a adawyd ar y ffordd. Diolch i'w hymroddiad, mae Williams wedi'i ddedfrydu heddiw.”
Dedfrydwyd Colin Williams i 16 mis o garchar a chafodd ei wahardd rhag gyrru am 20 mis yn Llys y Goron Caerdydd am wyrdroi cwrs cyfiawnder, peidio â stopio yn lleoliad gwrthdrawiad a pheidio â rhoi gwybod am wrthdrawiad.