Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
08:55 09/05/2022
Roedd pensiynwr a ymladdodd â lleidr, dwy fenyw a ymyrrodd yn ystod ymosodiad angheuol ffyrnig a chriw o ddynion chwim eu meddwl a achubodd deulu yn sgil ffrwydrad nwy ymhlith y rhai a gyfarfu â'r Prif Gwnstabl Jeremy Vaughan yr wythnos diwethaf i dderbyn Gwobr Dewrder Cyhoeddus gan yr Heddlu.
Mae'r gwobrau cenedlaethol yn cydnabod unigolion am weithredoedd eithriadol sy'n dangos dewrder neu ddyletswydd ddinesig wrth gynorthwyo'r heddlu. Derbyniodd llawer o'r rhai a wobrwywyd yn lleol wahoddiad i gwrdd â'r Prif Gwnstabl Vaughan yn ein pencadlys ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Yno, diolchwyd iddynt yn bersonol am eu gweithredoedd, a'r effaith y maen nhw wedi'i chael ar eu cymunedau.
Cyflwynwyd gwobrau i:
“Mae cyflwyno Gwobrau Dewrder Cyhoeddus yr Heddlu wedi rhoi cyfle i mi glywed hanesion am arwriaeth wirioneddol. Bu diweddglo trist i rai, a diweddglo hapus i eraill. Ond un peth sydd wedi codi ym mhob un yw'r dyngarwch, yr ymdeimlad o gymuned.”
– Y Prif Gwnstabl Jeremy Vaughan.