Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
08:50 12/05/2022
Mae Heddlu De Cymru yn cefnogi ymgyrch genedlaethol pythefnos o hyd, sy'n dechrau heddiw (12 Mai) i ildio arfau tanio a bwledi a chetris.
Caiff deddfwriaeth arfau tanio ei diweddaru'n rheolaidd ac mae'r heddlu'n gofyn i bobl ildio gynnau a bwledi a chetris digroeso neu sy'n cael eu cadw'n anghyfreithlon er mwyn eu hatal rhag mynd i'r dwylo anghywir.
Mae'n bosibl y caiff llawer o arfau tanio eu cadw'n ddiniwed, heb yn wybod eu bod yn anghyfreithlon neu efallai na sylwyd arnynt neu anghofiwyd amdanynt yng nghartrefi pobl. Mae'r ymgyrch ildio'n rhoi'r cyfle i ddeiliaid gael gwared ar yr arf tanio neu'r bwledi a chetris yn ddiogel drwy fynd â nhw i orsaf heddlu lleol i'w cyflwyno. Bydd gwneud hynny'n lleihau'r risg y bydd arfau tanio digroeso, didrwydded yn rhan o unrhyw drosedd.
Yn ystod y cyfnod o bythefnos, ni fydd y bobl fydd yn ildio arfau tanio yn cael eu herlyn am eu bod yn eu meddiant yn anghyfreithlon pan fyddant yn eu hildio a gallant eu cyflwyno yn ddienw. Fodd bynnag, bydd hanes pob arf tanio byw yn cael ei wirio am dystiolaeth o'r defnydd ohono mewn troseddau.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Simon Morgan o Uned Cudd-wybodaeth a Throseddau Cyfundrefnol Heddlu De Cymru:
“Gallwn fod yn falch fod lefel y troseddau yn ymwneud â drylliau yn y DU yn parhau i fod ymhlith yr isaf yn y byd. Ond nid ydym yn twyllo'n hunain am droseddau yn ymwneud â drylliau, a dyna pam ein bod yn cynnal yr ymgyrch Ildio Arfau Tanio nawr; rydym am weld cymaint o ynnau â phosibl yn cael eu cyflwyno. Byddwn yn annog pobl i'w cyflwyno.
“Gyda'n partneriaid, byddwn yn parhau i weithio'n galed i addysgu pobl am arfau tanio a'r peryglon a ddaw yn eu sgil, er mwyn sicrhau nad yw troseddau yn ymwneud â drylliau'n dod i'r amlwg yn y dyfodol.”
Gellir ildio arfau tanio a bwledi a chetris mewn unrhyw orsaf heddlu ond cynghorir unrhyw un sy'n cyflwyno arf tanio, neu ddryll stynio, yn ystod ymgyrch Ildio Arfau Tanio wirio amseroedd agor eu gorsaf a ffonio 101 cyn teithio er mwyn cael cyngor ar y ffordd orau i gludo'r arf yn gyfrifol o'r cartref i orsaf yr heddlu.
Yn ogystal, caiff unrhyw un sydd â gwybodaeth am bobl sy'n ymhél â gweithgarwch arfau tanio anghyfreithlon eu hannog i gysylltu.
Gellir cysylltu â Crimestoppers yn gwbl ddienw drwy 0800 555 111 a gallwch hefyd roi gwybod ar-lein yma.
Mewn argyfwng, ffoniwch 999 bob amser.