Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
13:07 14/01/2022
Mae dyn o Gaerdydd wedi'i garcharu am fwy na thair blynedd am gyflenwi cyffuriau yn ne Cymru.
Ar 31 Mawrth 2021, gweithredodd tîm Troseddau Cyfundrefnol Caerdydd warant cyffuriau mewn cyfeiriad yn Kent Street, Grangetown, Caerdydd.
Daeth y swyddogion o hyd i 17 o gyflenwadau hanner gram o gocên yn y cyfeiriad, gyda gwerth stryd amcangyfrifedig o £870.
Daethant hefyd o hyd i glorian ddigidol a bagiau selio, ynghyd â £355 o arian parod yr amheuir ei fod yn gysylltiedig â gwerthu cyffuriau.
Atafaelwyd ffôn symudol a oedd yn cynnwys negeseuon wedi'u hanfon yn hysbysebu cyffuriau ar werth.
Cafodd Ryan Hooper-Male, 25 oed o Grangetown, Caerdydd ei arestio, a ddoe, 13 Ionawr 2022, cafodd ei ddedfrydu i dair blynedd a phedwar mis o garchar.
Gall unrhyw un sydd â gwybodaeth am gyflenwi cyffuriau gysylltu â Heddlu De Cymru drwy'r dulliau isod neu ffonio Taclo'r Tacle ar 0800 555111.
Ewch i: https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/riportio/riportio/
Anfonwch neges breifat atom ar Facebook/Twitter
Drwy e-bost: [email protected]
Ffôn: 101