Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
15:43 21/10/2022
Yn fuan ar ôl 10.30pm ddydd Llun, 24 Chwefror 2020, roedd Owen Liscombe a Ben Davies yn rasio ei gilydd ar yr A483 ym Mhenllergaer, Abertawe.
Collodd Liscombe reolaeth gan yrru ei MINI drwy'r llain ganol ac yn syth i mewn i Ford Mondeo.
Anafwyd Liscombe a gyrrwr y Ford yn ddifrifol a bu'n rhaid iddynt aros yn yr ysbyty am gyfnod hir a chael sawl llawdriniaeth.
Plediodd Davies a Liscombe yn euog i achosi anaf difrifol drwy yrru'n beryglus ac ymddangosodd y ddau yn Llys y Goron Abertawe ddydd Gwener 21 Hydref i'w dedfrydu.
Dywedodd yr Ymchwilydd i Wrthdrawiadau Difrifol, Dawn Griffiths:
“Drwy lwc yn unig, ni chafodd gyrru byrbwyll Liscombe a Davies ganlyniadau mwy difrifol.
“Mae'r hyn a ddewisodd Liscombe a Davies ei wneud am hwyl y noson honno wedi newid bywyd rhywun arall. Rwy'n gobeithio y gall eraill ddysgu o hyn ac y byddant yn ystyried y ffordd y maen nhw'n gyrru o ddifrif. Gall car a gaiff ei drin yn y ffordd anghywir fod yn arf marwol.”
Cafodd Owen Liscombe, 23 oed o Gwmrhydceirw, Abertawe, ei ddedfrydu i ddwy flynedd o garchar a'i wahardd rhag gyrru am chwe blynedd.
Cafodd Ben Davies, 23 oed o Ynysforgan, Abertawe, ei ddedfrydu i ddwy flynedd o garchar a'i wahardd rhag gyrru am chwe blynedd.