Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
15:21 25/10/2022
Cyfaddefodd tad a mab o Catford, Llundain i gyhuddiad o affräe ac maent wedi'u gwahardd rhag mynd i gemau pêl-droed y naill am gyfnod o wyth mlynedd a'r llall am gyfnod o chwe blynedd yn ôl-weithredol.
Mae dau ddyn wedi cael eu carcharu yn dilyn anhrefn ffyrnig yn y gêm bêl-droed rhwng Dinas Caerdydd a Millwall yn Stadiwm Dinas Caerdydd.
Cafodd Kevin Ellis, 60 oed, ei ddedfrydu i 12 mis o garchar am ei weithredoedd yn ardal cefnogwyr Millwall mewn gêm bêl-droed
Cafodd ei fab, Kane Ellis, 20 oed, ei ddedfrydu i naw mis mewn sefydliad i droseddwyr ifanc.
Cyfaddefodd y ddau ddyn o Catford, Llundain i gyhuddiad o affräe ac maent wedi'u gwahardd rhag mynd i gemau pêl-droed y naill am gyfnod o wyth mlynedd a'r llall am gyfnod o chwe blynedd yn ôl eu trefn.
Cyfaddefodd pum cefnogwr arall Clwb Pêl-droed Millwall - Cory Ellis, 19 oed, Conor Barton, 33 oed, Joe Down, 35 oed, Darren Grieveson, 47 oed a Mitchell Wilcox, 21 oed - i gyhuddiad o affräe a rhoddwyd chwe mis o ddedfrydau wedi'u gohirio iddynt.
Maent hwythau hefyd wedi'u gwahardd rhag mynd i gemau pêl-droed am gyfnod o bedair blynedd a rhaid iddynt gwblhau 180 o oriau o waith di-dâl.
Clywodd Llys y Goron Casnewydd ddoe (Dydd Llun, 24 Hydref) bod dau stiward wedi gofyn i Cory Ellis, cefnogwr Millwall, i beidio â gwneud ystumiau o awyren a siantio am farwolaeth Emiliano Sala yn ystod y gêm ar 21 Awst, 2021.
Wedi hynny, dechreuodd Cory Ellis a'i dad, Kevin Ellis, ddadlau gyda'r stiwardiaid.
Dangosodd deunydd fideo teledu cylch Kane Ellis, brawd Cory Ellis, yn gwthio stiward i lawr grisiau concrid a Kevin Ellis yn dyrnu stiward arall 11 gwaith.
Brysiodd nifer o gefnogwyr yr ymwelwyr draw gan wthio stiwardiaid i'r llawr - disgynnodd rhai i lawr grisiau concrid serth a dros resi o seddi.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Michael Greaves o Heddlu De Cymru: “Ni fydd Heddlu De Cymru yn goddef unrhyw fath o drais neu gamdrin yn erbyn stiwardiaid sydd, yn y bôn, yn weision cyhoeddus ac yn gweithio'n galed i gadw Stadiwm Dinas Caerdydd yn lle diogel i bawb.
"Mae'r mwyafrif helaeth o gefnogwyr yr ymwelwyr a ddaw i Stadiwm Dinas Caerdydd yn ymddwyn yn dda ac yn frwd iawn dros eu clybiau, ac yn sicr roedd y cefnogwyr cartref a'r ymwelwyr mewn sioc yn sgil y digwyddiad hwn.
"Lle ceir tystiolaeth o anrhefn neu drais yn gysylltiedig â phêl-droed, rydym bob amser yn ceisio erlyn y rheini sy'n gyfrifol er mwyn cymryd y camau priodol."