Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
16:03 07/07/2022
Cyfaddefodd Inderjeet Kaur, 29, ei bod wedi sefyll tua 150 o brofion gyrru ymarferol a theori ar ran ymgeiswyr rhwng 2018 a 2020.
Cyflawnodd Kaur y troseddau ledled Cymru a Lloegr, gan gynnwys Abertawe, Caerfyrddin, Birmingham a Llundain.
Tyfodd amheuon staff yn y canolfannau profi fod Kaur yn esgus ei bod yn ymgeisydd dilys wrth sefyll y prawf.
Ar ôl atgyfeiriad gan yr Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau (DVSA), lansiwyd ymchwiliad gan Tarian, sef tîm troseddau cyfundrefnol rhanbarthol de Cymru.
Datgelodd yr ymchwiliad fod Kaur yn cynnig gwasanaethau i ymgeiswyr profion a oedd yn cael anawsterau â'r Saesneg.
Plediodd Kaur, o Lanelli, yn euog yn Llys y Goron Abertawe ddydd Iau (7 Gorffennaf) a chafodd ei dedfrydu i wyth mis yn y carchar.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Steven Maloney:
“Mae'r troseddau a gyflawnwyd gan Kaur yn osgoi proses y prawf gyrru ac, yn eu tro, yn peryglu defnyddwyr ffyrdd diniwed drwy ganiatáu i fodurwyr peryglus, heb sgiliau feddu ar drwyddedau dilys yn ôl pob golwg.
“Mae diogelwch ar ein ffyrdd wedi bod yn flaenoriaeth bob amser ac mae arestio'r rhai sy'n torri'r gyfraith yn sicrhau ein bod yn cadw gyrwyr anghymwys oddi ar y ffyrdd.
“Drwy weithio gyda DVSA, datgelodd yr ymchwiliad troseddol cymhleth hwn faint troseddau Kaur, a gyflawnwyd yn gyfan gwbl ar sail trachwant. Llwyddwyd i roi terfyn ar droseddau Kaur, ac mae cyfiawnder wedi cael ei weinyddu, ac rydym yn croesawu'r ddedfryd a gyflwynwyd gan y llys heddiw.
“Mae twyllwyr fel hyn yn peri risgiau sylweddol i'r cyhoedd ac anogaf unrhyw aelodau o'r cyhoedd sydd â gwybodaeth am droseddau o'r fath i roi gwybod i'r heddlu neu gysylltu â Taclo'r Tacle yn ddienw.”
Dywedodd Caroline Hicks, Pennaeth Gwasanaethau Rheoleiddio a Thrawsnewid DVSA:
“Blaenoriaeth DVSA yw diogelu pawb rhag gyrwyr a cherbydau anniogel.
“Diben profion gyrru a theori yw helpu i sicrhau bod gan bobl y wybodaeth, y sgiliau a'r agwedd gywir i yrru ar ein ffyrdd.
“Mae osgoi'r profion yn peryglu bywydau, mae gennym ddulliau o ganfod twyll mewn perthynas â phrofion a byddwn yn cosbi'r bobl dan sylw yn llym. Mae hyn yn cynnwys canslo canlyniadau unrhyw brofion sydd wedi cael eu sefyll drwy dwyll.”
Gallwch roi gwybod i ni drwy ffonio 101, neu 999 mewn argyfwng. Gallwch hefyd gysylltu â Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555 111.