Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
10:59 19/07/2022
Mae Heddlu De Cymru wrthi'n cynnal un o'i ymgyrchoedd mwyaf ers blynyddoedd i recriwtio Swyddogion yr Heddlu er mwyn cadw'r cyhoedd yn ddiogel, o ddydd Llun 4 Gorffennaf i ddydd Llun 25 Gorffennaf 2022.
Mae llwybr mynediad i ddod yn Swyddog yr Heddlu sy'n gweddu i bob lefel o addysg. Mae Prentisiaeth Gradd Cwnstabliaid yr Heddlu i'r rhai nad oes ganddynt radd. Mae'r Llwybr Mynediad i Raddedigion i'r rhai sydd â gradd mewn unrhyw bwnc. Mae'r Cynllun Carlam i Rôl Ditectif i'r rhai sydd â gradd mewn unrhyw bwnc ac sy'n dymuno bod yn dditectif.
Fel Heddlu, mae Heddlu De Cymru am gynrychioli'r cymunedau y mae'n eu gwasanaethu ac mae'n croesawu ceisiadau gan unrhyw un sydd â diddordeb mewn plismona. Yn benodol, rydym yn annog menywod a'r rhai o gefndiroedd ethnig lleiafrifol i wneud cais.
Dywedodd y Prif Gwnstabl Jeremy Vaughan: “Mae plismona yn yrfa unigryw ac mae pob diwrnod yn wahanol. Gallwch helpu i lywio ac achub bywydau y bobl o'ch cwmpas.
“Ni fu amser gwell i ddod yn swyddog yr heddlu. Gwnewch gais heddiw a helpwch i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i gymunedau ledled De Cymru.”
Mae rhagor o wybodaeth am rôl Swyddog yr Heddlu a dolenni i wneud cais ar-lein ar gael yma www.south-wales.police.uk/cy-GB/heddluoedd/heddlu-de-cymru/ardaloedd/gyrfaoedd/gyrfaoedd/.