Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
10:47 11/04/2022
Heddiw mae teulu Aamir Siddiqi wedi rhyddhau datganiad a ffotograffau i nodi 12 mlynedd ers ei lofruddiaeth.
Bu farw Aamir, 17 oed, yn ei gartref yn Ninian Road, y Rhath ar 11 Ebrill 2010 ar ôl cael ei drywanu sawl gwaith.
Mae Heddlu De Cymru yn parhau i weithio gyda'r Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol ac asiantaethau gorfodi'r gyfraith yn rhyngwladol i ddod o hyd i Mohammed Ali Ege, y chwilir amdano mewn cysylltiad â llofruddiaeth Aamir, a'i ddychwelyd i'r DU.
Er bod dau ddyn wedi'u cael yn euog o'i lofruddio, a'u bod yn parhau i fwrw dedfryd oes yn y carchar, mae Heddlu De Cymru mor ymrwymedig ag erioed i ddod o hyd i Ege a'i arestio.
Mewn datganiad, dywedodd teulu Aamir:
“Mae 12 mlynedd wedi mynd heibio ers i'n Aamir annwyl gael ei lofruddio'n greulon ond i ni, ei deulu, mae fel petai wedi digwydd ddoe.
“Byddai wedi bod yn 30 oed eleni. Mae ei ffrindiau yn ystod ei blentyndod bellach yn oedolion ac mae gan rai ohonynt eu plant eu hunain. I ni, mae amser wedi aros yn ei unfan.
“Roedd Aamir yn fachgen 17 oed a oedd ar fin troi'n oedolyn a chafodd ei ladd yn y ffordd fwyaf creulon.
“Byddai'n chwarae pêl-droed gyda'i ffrindiau ym Mharc y Rhath ac yn gwylio criced yng Ngerddi Sophia, roedd yn hoffi cerdded ym Mae Caerdydd ac yn mwynhau'r amrywiaeth o fwyd ar Heol y Ddinas.
“Roedd ar fin sefyll ei arholiadau Safon Uwch ac roedd wedi cael cynnig lle i astudio'r gyfraith ym Mhrifysgol Caerdydd. Bachgen o Gaerdydd ydoedd ac mae'r ddinas yn dwyn atgofion gwych ohono ond yn ein hatgoffa, ar yr un pryd, nad yw gyda ni mwyach.
“Does dim geiriau i roi disgrifiad digonol o'r boen rydym yn ei theimlo ar ôl ei lofruddiaeth. Roedd yn unigolyn caredig, annwyl, doniol a hael iawn a adawodd deulu a ffrindiau ar ei ôl sy'n dal i alaru amdano.
“Mae'r ffaith ein bod yn dal i aros am gyfiawnder yn ychwanegu at ein galar. Fel teulu rydym yn annog unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth a allai helpu i ddod â'r treial am lofruddiaeth i ben i gysylltu â Heddlu De Cymru.”
Mae gweithgarwch yn ystod y cyfnod cyn heddiw sy'n nodi 12 mlynedd ers marwolaeth Aamir wedi cynnwys:
Gwnaeth Mohammed Ali Ege, sy'n 44 oed erbyn hyn, ffoi i India cyn y gellid ei arestio mewn cysylltiad â llofruddiaeth Aamir.
Yn 2013 cafodd ei arestio yn India ond yn 2017, wrth aros i gael ei estraddodi, dihangodd o'r ddalfa yn India.
Ar sail ein hymchwiliad parhaus i ddod o hyd iddo rydym yn gwybod ei fod wedi teithio o amgylch.
Mae ei leoliad presennol yn dal i fod yn anhysbys ond os caiff Mohammed Ali Ege ei arestio unrhyw le yn y byd, mae trefniadau ar waith i sicrhau y caiff Heddlu De Cymru ei hysbysu ar unwaith.
Dywedodd yr Uwch-arolygydd Stuart Wales, o Dîm Ymchwilio i Droseddau Mawr Heddlu De Cymru:
“Roedd Aamir, heb os, yn ddyn ifanc llawn addewid a photensial.
“Mae 12 mlynedd wedi mynd heibio ond hyd nes y byddwn wedi dod o hyd i Mohammed Ali Ege ac wedi'i ddychwelyd i'r DU, mae hwn yn ymchwiliad byw ac yn parhau'n flaenoriaeth i Heddlu De Cymru.
“Mae sawl apêl am wybodaeth am Mohammed Ali Ege ar Interpol, y Porth Cyhoeddus Ymchwiliadau Mawr, Crimestoppers, gwefan Heddlu De Cymru ac mae llawer o adroddiadau yn y cyfryngau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol.
“Mae'n rhaid ei fod yn edrych dros ei ysgwydd yn barhaus, ac rydym mor benderfynol ag erioed i ddatrys y mater hwn.
“Hoffem ofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth am ble y mae gysylltu â ni – er mwyn teulu Aamir sydd wedi ymddwyn mewn ffordd mor urddasol drwy'r cyfan.
“Rydym wedi rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i deulu Aamir yn ddiweddar ac rydym yn parhau i'w cefnogi, ac maen nhw wedi nodi unwaith eto eu bod yn dal i ymddiried yn Heddlu De Cymru.
“Mae swyddog cyswllt teuluol yn eu cefnogi ac rydym yn parhau i gyfathrebu â nhw yn unol â'u dymuniadau.”
Rydym yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth am ble y gellir dod o hyd i Mohammed Ali Ege i gysylltu drwy un o'r dulliau canlynol:
https://mipp.police.uk/operation/62SWP17A31-PO1
Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111
Ewch i: https://bit.ly/SWPProvideInfo
Anfonwch neges breifat atom ar Facebook/Twitter
Drwy e-bost: [email protected]
Ffoniwch: 101 gan ddyfynnu'r cyfeirnod 1700150924