Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
11:42 11/02/2022
Yn ystod yr ymgyrch gudd 8 mis o hyd, cafodd unigolion eu dal yn gwerthu cocên crac, heroin a chetamin ar strydoedd Adamsdown, Butetown, Cathays, Grangetown, y Sblot a Threganna, ac yng nghanol y ddinas.
Cafodd hyd at 300 o gyflenwadau cyffuriau eu hatafaelu, ynghyd â £53k mewn arian parod, 125 o ffonau symudol, ac amrywiaeth o arfau.
O'r 69 a gafodd eu harestio, mae 64 wedi cael eu cyhuddo ac mae 44 eisoes yn bwrw dedfryd o garchar – cyfanswm o fwy na 117 o flynyddoedd.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Grant Wilson, a arweiniodd yr ymgyrch: “Cafodd Ymgyrch Talon ei lansio mewn ymateb uniongyrchol i bryderon a godwyd gan drigolion y gymuned am achosion amlwg o werthu cyffuriau bob dydd a oedd yn effeithio ar eu hansawdd bywyd.
“Cafodd swyddogion cudd eu hanfon i ardaloedd megis canol y ddinas, Butetown a Grangetown, lle gwelwyd bod marchnad gwerthu cyffuriau agored.
“Mae'r adborth a gafwyd gan y gymuned leol yn dilyn yr ymgyrch wedi bod yn wych. Aeth un aelod o'r cyhoedd at swyddog cymorth cymunedol yr heddlu ar y stryd i ddweud bod Butetown wedi cael ei thrawsnewid yn llwyr.
“Nid ydym yn naïf; gwyddom fod cyffuriau yn cael eu gwerthu o hyd, ond mae'r ymgyrch hon wedi cael effaith sylweddol ar yr achosion amlwg o werthu cyffuriau roedd cymunedau yn eu disgrifio i ni.”
Cafodd swyddogion cudd eu defnyddio rhwng mis Awst 2019 a mis Mawrth 2020, wrth i bandemig COVID-19 ddechrau, ac aed ati i arestio unigolion ym mis Gorffennaf 2020.
Ymhlith y digwyddiadau nodedig yn ystod yr ymgyrch roedd y canlynol:
Ychwanegodd DI Wilson: “Mae'r canlyniadau yn dangos ymroddiad pob un swyddog oedd yn rhan o Ymgyrch Talon ond nid dyna ddiwedd y stori.
"Cam nesaf Ymgyrch Talon yw sicrhau bod gweithdrefnau ar waith pan fydd yr unigolion hyn yn cael eu rhyddhau o'r carchar.
“Byddwn yn ei gwneud mor anodd â phosibl iddynt ailddechrau arni drwy weithio gyda'r Gwasanaeth Prawf a Darparwyr Tai.
“Nid digwyddiad untro yw hwn – mae adnabod, atal ac arestio gwerthwyr cyffuriau sy'n gweithredu yn ein cymunedau lleol yn parhau i fod yn flaenoriaeth feunyddiol i ni.”