Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
10:57 26/08/2022
![]() |
![]() |
Ym mis Ionawr 2021, gweithredodd swyddogion warant chwilio mewn cyfeiriad yn Nhrelái.
Cafodd Sambou Kassama, 25, ac Iuan Mills, 21, y ddau o Drelái, eu harestio am feddu ar gocên crac, heroin a chanabis gyda'r bwriad o'u cyflenwi. Cafodd trydydd dyn, Lewis Williams, 19 o Drelái, ei arestio mewn cysylltiad â hyn yn ddiweddarach.
Roedd yr ymchwiliad i Kassama hefyd yn cynnwys digwyddiad ym mis Ionawr 2021 mewn cyfeiriad yn Nhrelái, lle y daeth swyddogion o hyd i gyffuriau dosbarth A a ffonau symudol.
Plediodd Mills a William yn euog a chawsant eu dedfrydu. Plediodd Kassama yn ddieuog a chafodd ei ddedfrydu ar ôl treial.
Rhoddwyd y dedfrydau canlynol yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Mercher 17 Awst:
Anogir unrhyw un sydd ag amheuon neu wybodaeth am gyflenwi cyffuriau anghyfreithlon i gysylltu â Heddlu De Cymru.
Rhowch wybod ar-lein: Riportio trosedd | Heddlu De Cymru (south-wales.police.uk)
Fel arall, gallwch gysylltu â Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.
Mewn argyfwng, ffoniwch 999 bob amser.