Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
13:15 15/08/2022
Mae dyn wedi cael ei garcharu ar ôl lladrata o boced dyn 79 oed ar Hopkinstown Road, Pontypridd.
Penderfynodd Liam Jonathan, 33 oed o Lyncoch, gymryd mantais o ddyn 79 oed wrth gerdded ar hyd y ffordd ddydd Mawrth 5 Gorffennaf 2022.
Gwthiodd Jonathan y dyn oedrannus o'r tu ôl, a rhoddodd ei law ym mhocedi'r dyn i ddwyn ei gardiau a'i ffôn symudol, gan adael y dyn oedrannus wedi dychryn ac mewn sioc.
Yn ffodus, gwelodd aelod o'r cyhoedd yr hyn a ddigwyddodd o'i char a stopiodd i helpu a ffonio'r heddlu.
O fewn tair awr o wneud yr alwad, roedd Jonathan wedi cael ei adnabod, ei leoli a'i arestio am y lladrad.
Dychwelwyd yr eiddo oedd wedi'i ddwyn i'r dyn yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw.
Ymddangosodd Jonathan gerbron Llys y Goron Merthyr Tudful ddydd Iau 11 Awst, lle plediodd yn euog a chael ei ddedfrydu i ddwy flynedd o garchar.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Adam Carra:
“Mae hon yn enghraifft wych o adrannau gwahanol yn gweithio gyda'i gilydd fel tîm i adnabod a dal unigolyn treisgar.
“Rwy’n llwyr groesawu’r ddedfryd hon o garchar a dylai lladron pocedi weld hyn fel rhybudd.
“Hoffwn ddiolch i'r aelod o'r cyhoedd a wnaeth yn siwr bod y dyn yn dychwelyd adref yn ddiogel ac a ffoniodd yr heddlu ar ei ran, gan roi disgrifiad gwych o Jonathan a rhoi gwybod i ba gyfeiriad yr aeth ar ôl y lladrad, yn ogystal ag i dimau Ymateb a Phlismona yn y Gymdogaeth Pontypridd am ddelio â'r ymchwiliad yn gyflym ac yn effeithiol.
“Os bydd unrhyw un yn gweld gweithgarwch amheus, naill ai ffoniwch yr heddlu ar unwaith, neu rhowch wybod i aelod o staff siop neu staff diogelwch.”