Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
12:21 05/08/2022
Mae mam Jordan Moray, sydd wedi bod ar goll ers tair blynedd bellach, wedi ymbil yn daer ar i'w mab ddychwelyd adref ac i unrhyw un sydd â gwybodaeth am ble mae gysylltu â'r heddlu.
Cytunodd Debbie Moray, sy'n byw yn Aberdâr nepell o'r fflat y diflannodd ei mab ohoni, i wneud ffilm yn y gobaith y byddai'n helpu ymchwiliad yr heddlu sy'n dal i fynd rhagddo ac nad yw wedi canfod unrhyw wybodaeth newydd ers peth amser.
Roedd Jordan Moray yn 33 oed pan ddiflannodd heb adael ei ôl ym mis Gorffennaf 2019. Roedd drws ei fflat wedi'i adael heb ei gloi ac roedd ei gonsol gemau yn dal i redeg. Roedd ei ffôn symudol yn cael ei wefru. Er gwaethaf ymchwiliad trylwyr gan Heddlu De Cymru, nid oes neb yn gwybod ble mae. Ni fu unrhyw arwydd o fywyd - dim trafodiadau ariannol a dim cyswllt.
Dywedodd Debbie Moray:
“Mae Jordan yn berson annibynnol a swil. Mae'n eithaf tawel a dweud y gwir. Mae'n dwli ar fod yn yr awyr agored. Byddai'n fy ffonio ac yn gofyn i mi brynu cwpl o farbeciws untro a stecen iddo. Byddai'n cwrdd â fi a byddai'n dringo'r mynydd ac yn ei bwyta yno, am oriau ac oriau.
“Bu swyddogion fforensig yr heddlu yn archwilio ei fflat ond rwy'n credu iddo adael o'i wirfodd. Mae ei sach deithio wedi diflannu, mae ei lamp ben wedi diflannu, yn ogystal â'i sgidiau ymarfer. Mae ein calonnau wedi’u torri.”
Ym mis Ionawr 2021, cafodd Debbie lygedyn o obaith pan gysylltodd rhywun i ddweud ei fod wedi gweld Jordan, o bosibl, yn ardal Stratford Upon Avon. Mae dyn yn honni iddo siarad â Jordan ym mis Medi (2020) ac, yn ddiweddarach, iddo weld apêl i ddod o hyd iddo ar wefan yr heddlu pan wnaeth ei adnabod yn syth. Ers hynny, bu enghreifftiau posibl eraill o weld Jordan yn yr ardal.
Ychwanegodd Debbie:
“Mae fy ngŵr a minnau yn mynd yno [i Stratford] ac yn cerdded o gwmpas am oriau ac oriau. Mae fel chwilio am nodwydd mewn tas wair ond rydym yn parhau i wneud hynny. Rydym yn gosod posteri yno. Ble bynnag yr awn, rydym yn gosod posteri. Ond gallai fod yn unigolyn sy'n edrych yn debyg i Jordan ond rwy'n deall hynny.”
Dywedodd Debbie fod y teulu wedi dod at ei gilydd ers i Jordan ddiflannu ac mae'r gymuned leol wedi bod yn gefnogol.
“Gwych, mae fy nheulu a'r gymuned wedi bod yn dda iawn. Rwy'n chwilio'r mynyddoedd a'r coedwigoedd yn rheolaidd. Cyn gynted ag y byddwn yn clywed rhywbeth [achos posibl o'i weld] byddwn yno. Mae fy mrawd a'i wraig yn chwilio'r mynyddoedd ar droed ac ar feic drwy'r amser. Mae brawd Jordan yn gwneud hynny hefyd.”
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Gareth Davies:
“Mae'r dyn yn Stratford Upon Avon yn eithaf hyderus mai'r unigolyn roedd yn siarad ag ef oedd Jordan. Ers iddo fynd ar goll, nid ydym wedi diystyru unrhyw beth ac ni allwn fod yn sicr mai Jordan oedd e. Ond, wrth gwrs, rhoddodd yr achos posibl hwn o'i weld obaith i bawb a oedd yn cymryd rhan yn yr ymgyrch chwilio fod Jordan yn fyw ac yn iach ac mae'n dal i wneud hynny.
“Rhaid i ni, neu ei deulu, allu gweld Jordan ei hun neu siarad ag ef er mwyn gwybod ei fod yn iawn. Rwy'n apelio ar Jordan ei hun ac yn ei annog i gysylltu. Fodd bynnag, rwy'n deall, os yw'n byw oddi ar y grid, ei fod yn annhebygol iawn o weld yr apêl hon.
“Felly, dylai unrhyw un sy'n credu ei fod wedi'i weld gysylltu â ni ar unwaith. Dylai unrhyw un sy'n credu ei fod wedi'i weld ar ôl darllen yr apêl hon annog Jordan i gysylltu â'i deulu neu'r heddlu er mwyn cadarnhau ei fod yn fyw ac yn iach.
“Mae mam Jordan a'i deulu yn ysu am gael cadarnhad ei fod yn fyw ac yn iach ac maent am i Jordan wybod nad ydynt yn ddig wrtho am adael fel y gwnaeth ond eu bod mewn anobaith am nad ydynt yn gwybod ble mae nac a yw'n iawn. Maent yn deall ei bod yn bosibl na fydd Jordan am ddychwelyd er eu bod yn ei garu cymaint ond maent yn gofyn am y cadarnhad hwnnw.”
Mae Heddlu De Cymru wedi bod yn gweithio'n agos gyda Heddlu Swydd Warwick ers cael gwybod am yr achosion o weld Jordan.
Nid oes unrhyw un sy'n adnabod Jordan wedi'i weld ers iddo gael ei gofnodi fel rhywun sydd ar goll ar 2 Awst, 2019.
Yn dilyn apêl gychwynnol, llwyddodd yr heddlu i leoli Jordan yn ei bentref, Bro Deg, ar 24 Gorffennaf, ychydig dros wythnos ynghynt.
Roedd y ffordd y diflannodd yn gwbl groes i'w gymeriad, a wnaeth i'w deulu, ei ffrindiau a’r heddlu bryderu ar unwaith.
Bu ymgyrch chwilio enfawr yn dilyn hynny, gan gynnwys timau chwilio arbenigol ac aelodau o'r gymuned. Mae swyddogion wedi treulio oriau ac oriau yn gwylio deunydd fideo teledu cylch cyfyng ac wedi chwilio ardaloedd lleol a'r llethrau a'r dyfrffyrdd o'u cwmpas am gliwiau am beth allai fod wedi digwydd iddo.
Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio 101 gan ddyfynnu cofnodrif *284205. Fel arall, gallwch ffonio Crimestoppers yn ddienw, ar 0800 555 111.
GWYLIWCH: Apêl uniongyrchol Debbie Moray