Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
14:00 21/10/2022
Daeth aelod o'r cyhoedd o hyd i gorff Tomasz Waga am tua 11.30pm nos Iau, 28 Ionawr, 2021 ar Westville Road, Pen-y-lan, Caerdydd.
Mae pum dyn eisoes wedi cael eu cyhuddo mewn cysylltiad â marwolaeth Tomasz.
Ond mae dau ddyn – dau o Albania – heb eu canfod o hyd. Mae'r heddlu yn chwilio am Elidon Elezi a Artan Palluci ar amheuaeth o lofruddio.
Pennawd: Artan Palluci, 29, cyfeiriad hysbys diwethaf Cathays, Caerdydd, a Elidon Elezi, 22, cyfeiriad hysbys diwethaf East Finchley, Llundain.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Stuart Wales, o Heddlu De Cymru: “Rydym yn apelio ar ein cymuned Albanaidd yn y DU a thramor i'n helpu i ddod o hyd i'r ddau ddyn.
“Mae gwobr uwch o £10,000 ar gael i unrhyw un sydd â gwybodaeth a all arwain at eu harestio.
“I fod yn gymwys i gael y wobr, rhaid rhoi gwybodaeth i Crimestoppers yn uniongyrchol. Gall hyn gael ei wneud drwy ffurflen ar lein ddienw yr elusen.
“Ni fydd ffiniau rhyngwladol yn ein rhwystro wrth fynd ar ôl pobl a amheuir o lofruddio yn y DU. Mae gennym gysylltiadau rhagorol â chydweithwyr gorfodi'r gyfraith ledled Ewrop, gan gynnwys Albania.
“Byddem yn apelio ar Mr Palluci a Mr Elezi y byddai o fudd i chi fynd at yr heddlu o'ch gwirfodd a dweud wrthym beth ddigwyddodd yng Nghaerdydd ar noson Ionawr 28 2021.
“Bydd eich cymorth yn galluogi teulu Tomasz symud ymlaen a'u bywydau yn dilyn eu colled drasig. Diolch.”
Arestiwyd Hysland Aliaj, 31 oed, yn yr Almaen a chafodd ei estraddodi i'r DU ym Mehefin 2022 mewn ymgyrch lwyddiannus, ar y cyd â Ditectifs Troseddau Mawr Heddlu De Cymru ac asiantaethau gorfodi'r gyfraith yn yr Almaen.
Ymuna â phedwar dyn arall - Josif Nushi, Mihal Dhana, Gledis Mehalla a Mario Qato – fydd yn mynd i'r llys fis Hydref 2022, wedi eu cyhuddo o lofruddiaeth a throseddau perthnasol eraill.
Bydd yr unigolion eraill a arestiwyd yn ystod yr ymchwiliad hir a chymhleth hwn yn cael eu cadw ar fechnïaeth wrth aros am dreial yn ymwneud â materion eraill.
Atafaelwyd nifer o gerbydau fel rhan o'r ymchwiliad, ond mae'r ymchwiliad yn dal i ganolbwyntio ar leoliad Mercedes C200 Sport arian/llwyd, rhif cofrestru BK09 RBX.
Cafodd y Mercedes, sy'n gysylltiedig â'r ymchwiliad a allai fod yn dystiolaeth hanfodol, ei weld ddiwethaf yng Nghaerdydd ar y diwrnod y daethpwyd o hyd i'w gorff.
Pennawd: Cafodd y Mercedes, a allai gynnwys tystiolaeth hanfodol, ei weld ddiwethaf yng Nghaerdydd ar y diwrnod y daethpwyd o hyd i gorff Tomasz.