Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
15:03 27/09/2021
Ym mis Medi dethlir 20 mlynedd ers sefydlu Cymdeithas yr Heddlu Benywaidd De Cymru, neu Rwydwaith Cydraddoldeb Rhywiol Heddlu De Cymru fel y'i gelwir heddiw.
Arwyddair y Gymdeithas oedd ‘Una Voce, Pari Passu’ – Un Llais Cyfartal. Roedd yr arwyddair yn crynhoi nodau'r Gymdeithas, sef darparu amgylchedd gwaith cadarnhaol i swyddogion a staff benywaidd, a nodi gwahaniaethu yn erbyn menywod, mynd i'r afael ag ef a'i ddileu.
Erbyn diwedd y 2000au, cafwyd sawl trobwynt a wnaeth roi hwb i gydraddoldeb rhywiol a chynyddu cynrychiolaeth menywod mewn adrannau arbenigol o fewn yr heddlu. Bu trobwynt pwysig iawn yn 2008 pan wnaeth y Gymdeithas weithio'n llwyddiannus gyda storfeydd lifrai yr heddlu i nodi a chynhyrchu'r dillad mwyaf cyfforddus oedd ar gael i swyddogion beichiog.
Parhaodd y Gymdeithas i wneud cynnydd yn y 2010au, gan gymryd camau breision i sicrhau bod cysylltiadau cenedlaethol a rhyngwladol yn cael eu sefydlu â Chymdeithas Ryngwladol Menywod yn yr Heddlu (IAWP) a Chymdeithas Prydain ar gyfer Menywod yn yr Heddlu (BAWP). Mae'r cydberthnasau hyn wedi mynd o nerth i nerth, ac mae llawer o swyddogion benywaidd o dde Cymru wedi mentora swyddogion dramor.
Yn 2016 cafodd y Gymdeithas ei hailfrandio a'i hailstrwythuro, gan greu'r Rhwydwaith Cydraddoldeb Rhywiol. Wrth ailfrandio, cafodd dynion eu croesawu'n aelodau, er mwyn bod yn gyson â HeForShe, yr ymdrech fyd-eang wedi'i harwain gan y Cenhedloedd Unedig i gynnwys dynion a bechgyn yn y gwaith o ddileu'r rhwystrau cymdeithasol a diwylliannol sy'n atal menywod a merched rhag gwireddu eu potensial. Heddiw, mae aelodau gwrywaidd y rhwydwaith yn chwarae rhan yn y gwaith o annog mwy o gefnogaeth i fenywod, a sicrhau bod menywod yn cyflawni rolau anodd eu cyrraedd yn y sefydliad.
Dros yr ugain mlynedd diwethaf, mae'r rhwydwaith wedi gweithio'n galed i gefnogi datblygiad swyddogion a staff benywaidd, a'u helpu i gyflawni eu potensial. Mae hefyd yn parhau i flaenoriaethu iechyd a llesiant cydweithwyr benywaidd, ac mae'n mynd ati i chwilio am gyfleoedd i ddarparu mwy o gefnogaeth o ran mamolaeth, y menopos, a gofal cyn ac ar ôl rhoi genedigaeth. Dros y blynyddoedd diwethaf, mae'r gefnogaeth hon wedi cael ei rhoi i gydweithwyr gwrywaidd hefyd er mwyn rhannu'r rôl gofal sylfaenol a hyrwyddo cydbwysedd bywyd a gwaith.
Wrth siarad am yr ugainmlwyddiant, dywedodd y Prif Uwch-arolygydd a Phennaeth Gwasanaethau Corfforaethol, Joanna Maal:
"Rwyf wedi gweld y modd y mae'r Gymdeithas Menywod yn yr Heddlu wedi tyfu a datblygu'n Rhwydwaith Cydraddoldeb Rhywiol, fel y mae heddiw, sy'n rhoi pwyslais cryf ar gynhwysiant, a chefnogi pob cydweithiwr ni waeth beth fo'i rôl, rheng na rhywedd.
"Mae'r Rhwydwaith wedi bod ynghlwm wrth waith ardderchog i gefnogi ac annog datblygiad swyddogion a staff mewn ffyrdd creadigol iawn, ac mae hefyd yn buddsoddi cryn dipyn o amser ac ymroddiad i fynd i'r afael â materion hynod bwysig megis aflonyddu rhywiol a datblygiad proffesiynol.
"Yn rhyfeddol, mae'r rhwydwaith yn parhau i ddatblygu drwy arbenigedd ac egni'r bobl sy'n rhan ohono ac sy'n credu'n gryf yn ei ddiben, ac mae croeso cynnes i unrhyw aelod o staff neu swyddog sydd â diddordeb mewn chwarae rhan hollbwysig yng ngwaith y Rhwydwaith."
Yn y fideo byr hwn, mae cyn-aelodau ac aelodau presennol o'r Rhwydwaith yn siarad am eu rolau, a rhai o'r blaenoriaethau sy'n dal i fod yn berthnasol.
I gael rhagor o wybodaeth am y Rhwydwaith Cydraddoldeb Rhywiol, ewch i'n tudalen Cymdeithasau Staff. Gallwch hefyd ddilyn y Rhwydwaith ar Twitter yn: @swpgen.