Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
16:28 23/09/2021
Mae pum menyw o wahanol gymunedau yng Nghaerdydd yn camu i'r gegin i gystadlu yn erbyn darpar bobyddion TîmHDC fel rhan o ddigwyddiad sy'n anelu at hybu cydlyniant cymunedol.
DCI Eve Davis (Heddlu De Cymru) a Cheryl Pinheiro o Women Connect First a drefnodd y digwyddiad, a Phrifysgol Metropolitan Caerdydd fydd yn ei gynnal. Mae menywod o Tunisia, Sudan, Yemen a Chymru wedi gwirfoddoli i gymryd rhan.
Bydd y pobyddion amatur yn wynebu tîm o 5 aelod o staff a swyddogion o'r adran strategol ar gyfer diogelu'r cyhoedd (Pencadlys). Mae pawb sy'n cymryd rhan wedi dewis eitem i'w phobi, a byddant yn dangos yr eitemau hynny yn y digwyddiad terfynol ar 22 Medi.
Lansiwyd y digwyddiad hwn ar 16 Medi pan gafodd y cyfranogwyr gyfle i gwrdd â'i gilydd ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd a chyflwyno eu ryseitiau. Aethpwyd â nhw ar daith o gwmpas y Brifysgol wedyn.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Eve Davis:
“Fel arweinydd yr heddlu ar gyfer cam-drin a thrais domestig, rwy'n deall bod troseddau cam-drin a thrais domestig yn cael effaith anghymesur ar fenywod.
“Credaf fod y digwyddiad hwn yn creu cyfle i ymgysylltu â menywod na fyddant o bosibl wedi dod i gysylltiad â swyddogion nac aelodau o staff yr heddlu o'r blaen. Y gobaith yw y bydd yn helpu i chwalu rhwystrau a meithrin ymddiriedaeth a hyder.
“Rwyf hefyd yn gobeithio y bydd y digwyddiad yn hyrwyddo'r syniad o blismona fel opsiwn gyrfa. Gwnaethom ddewis cynnal y digwyddiad ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd er mwyn rhoi cyfle hefyd i'r menywod ddysgu mwy am y cyrsiau a'r addysg sydd ar gael iddynt.
“Rwy'n barod i gyfaddef nad oes unrhyw Mary Berrys na Paul Hollywoods yn rhan o'r tîm, ond yn sicr, cymryd rhan ac ymgysylltu â'r gymuned yw'r brif flaenoriaeth.”
Prif Uwch-arolygydd Wendy Gunney, Prif Swyddog Gweithredol Women Connect First Maria Constanza Mesa a'r entrepreneur Maggie Ogunbanwo fydd yn beirniadu'r brif gystadleuaeth bobi.
Llongyfarchiadau i'r enillydd, Mounira Debbabi, a enillodd y beirniaid drosodd gyda'i thagine llysiau a chig!