Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
13:37 03/09/2021
Mae tri gŵr o Abertawe, a oedd yn rhan o gang llinellau cyffuriau troseddol a oedd yn gwerthu cyffuriau yn anghyfreithlon, wedi cael eu carcharu am gyfanswm o 39 o flynyddoedd a 3 mis heddiw yn dilyn ymchwiliad 15 mis o hyd.
Cafodd Daniel Harris, 40 oed o Sgeti ei ddedfrydu i 16 mlynedd, cafodd Leon Ley, 34 oed o Ffordd Caerfyrddin yn Abertawe ei ddedfrydu i 11 mlynedd a 3 mis a chafodd Dale Martin, 28 oed o Townhill ei ddedfrydu i 12 mlynedd.
Mae aelodau eraill y grŵp eisoes wedi'u dedfrydu mewn cysylltiad â throseddau cyffuriau fel rhan o Ymgyrch Tilbury. Cafodd Ainsley Wood, 29 oed o Hackney yn Llundain, ei ddedfrydu i 15 mlynedd a 9 mis. Cafodd Nicholas Bailey, 36 oed o Sheerness yng Nghaint, ei ddedfrydu i 13 mlynedd a hanner. Cafodd Alex Shields, 37 oed o Takeley yn Essex, ei ddedfrydu i 8 mlynedd. Cafodd Zeina Raad, 40 oed o Clifton ym Mryste, ei ddedfrydu i 22 mis, wedi'i ohirio am 2 flynedd, a chafodd Jonathan Norris, 38 oed o Benlan, ei ddedfrydu i 9 mlynedd am ladrad.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Gareth Jones:
"Roedd yr achos hwn yn un hynod gymhleth ac ar ôl ymgyrch o 15 mis, mae'n wych gweld y llysoedd yn cyflwyno'r dedfrydau terfynol. Mae dedfrydu Harris, Ley a Martin yn dwyn yr achos hwn i glo llwyddiannus iawn. Rydym yn falch ein bod ni wedi tynnu cyffuriau dosbarth A a B gwerth sawl mil o bunnoedd oddi ar strydoedd Abertawe.
"Gwnaed popeth posibl drwy gydol ymchwiliad Ymgyrch Tilbury. Mae rhoi terfyn ar y grŵp hynod drefnus hwn yn dangos bod gan dditectifs Heddlu De Cymru y sgiliau a'r penderfyniad i ymladd troseddau o unrhyw faint neu natur ac rwy'n eithriadol o falch o bawb a gymerodd rhan wrth ddod â'r achos hir hwn i glo llwyddiannus iawn.
"Cafodd y rhain eu harestio yng nghanol cyfnod clo cenedlaethol cyntaf y Coronafeirws ond roeddem yn benderfynol o ddod â'r gang o flaen eu gwell a thorri'r cyflenwad cyffuriau trwy dynnu'r delwyr hyn oddi ar ein strydoedd.
"Rwy'n gobeithio y bydd y dedfrydau hyn yn rhoi tawelwch meddwl i gymunedau De Cymru fod y troseddwyr peryglus hyn bellach i ffwrdd o'r strydoedd a byddwn yn parhau i wneud popeth o fewn ein gallu i wneud De Cymru'n lle diogel i fyw ynddo ac i ymweld ag ef. Byddwn yn parhau i fynd ar drywydd y rhai sy'n dod i Dde Cymru er mwyn cyflawni troseddau gan wneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau nad oes croeso i droseddwyr yn ein hardal heddlu."