Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
10:36 06/10/2021
Cafodd Sarah Roper, menyw 27 oed o Resolfen, ei dedfrydu heddiw (Dydd Mawrth, 5 Hydref) ar ôl pledio yn euog i achosi marwolaeth Darren Fellowes drwy yrru'n beryglus ar Ddydd Nadolig 2019.
Bu farw Mr Fellowes, 48 oed, ar ôl iddo fynd gyda'i fab hynaf i helpu ei fab ieuengaf yr oedd ei gar wedi torri i lawr ar yr A465 rhwng cyffyrdd Mynachlog Nedd a Thonna.
Roedd yn rhoi cymorth pan gafodd ei daro gan gar Toyota Aygo oedd yn cael ei yrru gan Sarah Roper am tua 5.00pm.
Dywedodd y Ditectif Rhingyll Huw O’Connell, o'r Uned Ymchwilio i Wrthdrawiadau Difrifol:
“Oherwydd gweithredoedd Sarah Robert ar y diwrnod tyngedfennol hwnnw, collodd dyn teuluol annwyl ei fywyd mewn amgylchiadau hynod greulon.
"Mae'n wers i bob gyrrwr bod angen canolbwyntio'n llwyr ar y ffordd wrth yrru.”
Plediodd Roper yn euog yn Llys y Goron Abertawe ar 1 Medi. Fe'i dedfrydwyd i 22-mis yn y carchar wedi ei ohirio am ddwy flynedd, 300 awr o waith di-dâl, cyrffyw am naw mis a chafodd ei gwahardd rhag gyrru am dair blynedd a bydd rhaid iddi gwblhau prawf estynedig.