Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
14:38 18/10/2021
Mae adolygiad o faterion yn ymwneud ag euogfarn David Morris am lofruddio Mandy Power, ei dwy ferch Katie ac Emily, a'i mam Doris Dawson yng Nghlydach yn 1999 wedi arwain at ganfyddiadau arwyddocaol ar ôl i dystiolaeth fforensig allweddol gael ei dadansoddi ymhellach.
Gwnaed cysylltiad gwyddonol rhwng Morris â hosan, y credwyd yn eang iddi gael ei defnyddio gan y troseddwr yn ystod y llofruddiaethau, yn ystod asesiad ymchwiliol annibynnol o amryw o faterion a godwyd gan ei gynrychiolwyr cyfreithiol.
Mae archwiliad gwyddonol o'r hosan, gan ddefnyddio technoleg nad oedd ar gael i'r tîm ymchwilio gwreiddiol dros 20 mlynedd yn ôl, wedi nodi presenoldeb proffil *Y-STR cymysg.
Er bod cyswllt i Morris (neu berthynas wrywaidd o linach ei dad) wedi ei nodi ynghyd â'r proffil Y-STR cymysg, ni all y wyddoniaeth bennu yn union pa bryd na sut y trosglwyddwyd y proffil hwn i'r arddangosyn. Fodd bynnag, mae gwyddonwyr o'r farn ei bod yn “fwy tebygol” bod Morris wedi cyfrannu at y proffil DNA a ganfuwyd ar ddwy ran wahanol o'r hosan â gwaed arni, na phe na fyddai wedi cyfrannu unrhyw DNA o gwbl.
Yn dilyn y digwyddiadau trasig ar Kelvin Road, Clydach ym mis Mehefin 1999, cynhaliodd Heddlu De Cymru ymchwiliad helaeth i'r llofruddiaethau; dyma'r ymchwiliad mwyaf a mwyaf cymhleth a gynhaliwyd gan heddlu yng Nghymru erioed.
Yn 2002, cafodd David Morris ei euogfarnu o'r llofruddiaethau drwy reithfarn unfrydol yn Llys y Goron Abertawe. Cafodd ei euogfarn ei gwrthdroi ar apêl oherwydd gwrthdaro buddiannau un o gyfreithiwr yr amddiffyniad. Cynhaliwyd aildreial yn Llys y Goron Casnewydd yn 2006 a chafodd Morris ei euogfarnu eto. Cafodd ei ddedfrydu i garchar am oes.
Cafodd y mater ei ystyried gan y Comisiwn Adolygu Achosion Troseddol mor ddiweddar â 2018. Yn dilyn adolygiad trylwyr o ddeunydd yr achos, penderfynodd y Comisiwn beidio â'i gyfeirio at y Llys Apêl gan na nodwyd unrhyw dystiolaeth newydd.
Ym mis Tachwedd 2020, cysylltodd cynrychiolwyr cyfreithiol Morris â Heddlu De Cymru gan ofyn iddo ryddhau arddangosion amrywiol o'r ymchwiliad.
Cafodd y cais hwn ei ystyried yn ofalus a phenderfynodd yr heddlu gymryd camau a arweiniodd at benodi uwch-swyddog ymchwilio annibynnol a gwyddonydd fforensig annibynnol i oruchwylio adolygiad fforensig o ddeunydd yr achos.
Cafodd y gwaith – a gwblhawyd o dan faner Ymgyrch Dolomite – ei arwain gan y ditectifs profiadol Steve Carey ac Ian Ringrose, a'i gefnogi gan arbenigwr fforensig yr heddlu David Lloyd; maent oll yn aelodau o Heddlu Dyfnaint a Chernyw. Comisiynwyd labordy gwyddoniaeth fforensig annibynnol, Cellmark Forensic Services, i wneud y gwaith fforensig.
Yn dilyn marwolaeth David Morris ar 20 Awst 2021, rhoddwyd caniatâd gan ei deulu i sampl o'i waed gael ei ddefnyddio er mwyn cynnal yr archwiliadau fforensig.
Dywedodd Prif Gwnstabl Cynorthwyol Heddlu De Cymru, David Thorne:
“Nid oedd y penderfyniad i gynnal asesiad ymchwiliol yn gyfystyr ag ailagor yr achos nac ailymchwilio i'r llofruddiaethau, ac nid oedd ychwaith yn dangos diffyg tystiolaeth ynghylch euogfarn Morris na'r adolygiadau dilynol o'r achos. Cafwyd Morris yn euog, a hynny'n unfrydol, gan reithgor ar sail cryfder achos yr erlyniad, ac nid yw adolygiadau annibynnol gan y Comisiwn Adolygu Achosion Troseddol wedi dod o hyd i unrhyw dystiolaeth a fyddai'n penderfynu bod yr euogfarn yn anniogel.
“Fodd bynnag, mae'r datblygiad mewn technoleg fforensig wedi arwain at atebion yn seiliedig ar dystiolaeth i rai o'r cwestiynau a ofynnwyd am faterion fforensig yr achos hwn, ynghyd â'r materion eraill a godwyd gan raglen ddogfen BBC Wales ‘Beyond Reasonable Doubt’. Sicrhaodd penodiad Steve Carey a'i dîm bod yr adolygiad wedi'i gynnal drwy lygaid annibynnol.”
Mae canlyniad yr asesiad ymchwiliol wedi cael ei rannu â theuluoedd y dioddefwyr, teulu a chynrychiolwyr cyfreithiol Morris a'r unigolion eraill yr effeithiodd yr achos hwn arnynt.
Dywedodd Mr Carey:
“Mae fy nhîm wedi archwilio'r materion a godwyd yn ofalus yn unol â chylch gorchwyl Ymgyrch Dolomite.
“Mae'r gwyddonydd fforensig o'r farn wrth ystyried y canlyniadau – a gafwyd o samplau wedi eu cymryd o ddwy ran wahanol o'r hosan yn ystod yr archwiliad fforensig gwreiddiol – ei bod yn fwy tebygol bod David Morris (neu berthynas wrywaidd agos iddo o linach ei dad) wedi cyfrannu DNA iddynt, na phe na byddai wedi cyfrannu unrhyw DNA o gwbl.
“Wrth ystyried un sampl, dywedodd y prif wyddonydd fforensig wrthyf ei fod o'r farn bod y canlyniad Y-STR cymysg o lefel isel ac yn anghyflawn yn unol â'r disgwyl pe byddai Morris wedi cyfrannu DNA iddo. Pe byddai'r cyfraniad wedi dod gan rywun arall, byddai'n rhaid i'r cydrannau fod wedi cyfateb ar hap.
“Byddai'r siawns yn isel iawn i'r gwyddonydd ddewis unigolyn gwrywaidd ar hap o boblogaeth Gorllewin Ewrop sydd â chydrannau yn ei broffil Y-STR sy'n cael eu cynrychioli i'r un graddau â'r rhai ym mhroffil Y-STR Morris.
“Er mwyn profi hyn, dangosodd adnodd gwerthuso a ddatblygwyd gan Cellmark Forensic Services, o set ddata o 9,357 o ddynion o Orllewin Ewrop, nad oedd unrhyw un ohonynt yn cael eu cynrychioli i’r un graddau â’r gydran ym mhroffil Y-STR Morris.
“Dylid nodi nad yw'r canlyniadau yn caniatáu i'r gwyddonydd ddehongli sut y trosglwyddwyd y DNA i'r hosan, na ph'un a ddigwyddodd hynny felly wrth i'r arddangosyn gael ei gyffwrdd yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, ond, llwyddwyd i ganfod y cysylltiad hwn o ganlyniad i ddatblygiad mewn technoleg nad oedd ar gael i'r tîm ymchwilio gwreiddiol.
“Mae hyn yn arwyddocaol oherwydd cafodd yr hosan ei hatafaelu o safle'r llofruddiaethau, a chredir yn eang ei bod wedi cael ei defnyddio gan y llofrudd.
“Nid yw canlyniad yr asesiad fforensig na'r camau dilynol wedi canfod unrhyw wybodaeth sy'n tanseilio collfarn Morris. Yn fy marn i, fel yr uwch-swyddog ymchwilio annibynnol, mae'r darganfyddiadau newydd o'r samplau a gymerwyd o'r hosan yn cefnogi'r dystiolaeth sy'n bodoli eisoes a arweiniodd at yr euogfarn wreiddiol.”
Ymchwiliodd Ymgyrch Dolomite hefyd i ddatganiadau a roddwyd gan ddau dyst a ymddangosodd yn rhaglen ddogfen y BBC. Cawsant eu cyfweld gan swyddogion a chynhaliwyd ymchwiliadau pellach er mwyn ceisio cadarnhau a chefnogi eu datganiadau. Cafodd y dystiolaeth hon ei rhannu â Gwasanaeth Erlyn y Goron. Nid yw'r wybodaeth a ddarparwyd gan y tystion yn tanseilio euogfarn Morris.
Ychwanegodd ACC Thorne:
“Er gwaethaf y ffaith bod euogfarn Morris yn seiliedig ar y dystiolaeth anorchfygol yn ei erbyn, mae Heddlu De Cymru wedi dangos ymrwymiad i roi atebion sy'n seiliedig ar dystiolaeth i'r materion a godwyd am yr achos hwn dros nifer o flynyddoedd.
“Mae'r ymrwymiad hwn wedi canfod cyswllt fforensig rhwng y llofrudd David Morris ag eitem o arwyddocâd mawr a atafaelwyd o safle'r llofruddiaethau. Comisiynodd Heddlu De Cymru yr adolygiad yn y gobaith y byddai'n rhoi rhywfaint o gysur i'r sawl yr effeithiodd y llofruddiaethau arnynt fwyaf. Yn benodol, y rheini a gollodd dair cenhedlaeth o'r un teulu ac y bu'n rhaid iddynt ailymweld â'r atgofion poenus hynny dro ar ôl tro dros y ddau ddegawd diwethaf.
“Bydd canfyddiadau Ymgyrch Dolomite yn cael eu rhannu â'r Comisiwn Adolygu Achosion Troseddol er mwyn cwblhau'r broses a dangos tryloywder. Fodd bynnag, o ystyried casgliadau'r adolygiad hwn, hoffai Heddlu De Cymru ddangos parch i'r teulu a'r rhai y mae'r troseddau ofnadwy hyn wedi effeithio arnynt trwy ddirwyn yr achos hwn i ben.
“Mae teulu Mandy Power, ei phlant Katie, 10 oed, ac Emily, wyth oed, a’i mam Doris oedd yn 80 oed, sy’n dal i fyw ag atgofion mor boenus hyd heddiw, yn ein meddyliau fel bob amser.”