Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
11:24 20/10/2021
Bydd Heddlu De Cymru yn cynnal cynllun ildio arfau ymosodol dienw i roi'r cyfle i'r cyhoedd gyflwyno arfau er mwyn eu tynnu oddi ar y strydoedd a helpu i atal achosion o drais difrifol.
Cynhelir y cynllun rhwng 20 Hydref a 20 Rhagfyr.
Mae newidiadau i ddeddfwriaeth a ddeilliodd o Ddeddf Arfau Ymosodol 2019 yn gynharach eleni yn golygu ei bod bellach yn drosedd i feddu ar eitemau penodol megis dyrnau haearn, sêr taflu a chyllyll sombi, hyd yn oed yn breifat.
Mae hefyd yn cynnwys diffiniad wedi'i ddiweddaru o gyllyll clec i adlewyrchu newidiadau i ddyluniad arfau, a gwaharddiad ar feddu ar gyllyll clec a chyllyll disgyrchiant yn breifat. Roedd eisoes yn anghyfreithlon meddu ar gyllell neu arf ymosodol yn gyhoeddus.
Bydd cyflwyno mesurau o'r fath yn rhoi ffyrdd eraill i'r heddlu helpu i atal pobl rhag meddu ar gyllyll ac ymwneud â throseddau cyllyll.
Mae Heddlu De Cymru yn annog y cyhoedd i ildio arfau fel rhan o'i gynllun amnest, a gynhelir rhwng 20 Hydref a 20 Rhagfyr.
Gellir ildio arfau yng ngorsafoedd yr heddlu, lle y bydd y biniau wedi'u gosod wrth y ddesg flaen yn y lleoliadau canlynol:
Mae'r cynllun hwn yn ychwanegol at yr amnestau arfau a chyllyll a gynhelir yn rheolaidd gan heddluoedd.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Jason Herbert:
“Er mai ychydig iawn o bobl sy'n cario cyllyll yn Ne Cymru yn rheolaidd, rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i fynd i'r afael â throseddau cyllyll.
“Bydd pob arf a gaiff ei ildio drwy'r cynllun hwn yn golygu bod un arf yn llai ar gael i'w ddefnyddio mewn ffordd amhriodol. Manteisiwch ar y cynllun hwn – gallech achub bywyd drwy wneud hynny.”
Mae canllawiau pellach ar gael sy'n cynnwys rhestr lawn o'r eitemau dan sylw: Offensive Weapons Act (nbcc.police.uk)