Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
15:54 15/10/2021
Cafodd pedwar person eu dedfrydu heddiw ar ôl pledio yn euog i bymtheg achos gan gynnwys Cynllwynio i Gyflawni Twyll, Cael Arian drwy Ddicell a Thwyll, yn dilyn ymchwiliad gan Uned Troseddau Economaidd Heddlu De Cymru.
Roedd Audrey Osborne, 65, a'i meibion Gary Moore, 43, Clayton Moore, 46 ac Ian Moore, 44, oll o Gastell-nedd, yn rhedeg busnes broceriaeth morgeisi; gwnaethant ddefnyddio Credence Finance Limited er mwyn cyflwyno incwm wedi ei ddatgan yn anghywir ar geisiadau am forgeisi, ac yna sefydlu cwmni datblygu eiddo; Dreamscape Homes Ltd. Defnyddiwyd y cwmni hwn er mwyn twyllo'r dioddefwyr i fuddsoddi arian.
Cafodd cyfrandalwyr Dreamscape Homes Ltd eu darbwyllo i fuddsoddi eu harian gan feddwl bod y cwmni yn adeiladu pum tŷ uwchraddol â phum ystafell wely. Dywedwyd wrth y cyfranddalwyr hyn yn ddiweddarach, oherwydd oedi yn y broses gynllunio, bod y prosiect wedi newid i ddatblygiad o 21 eiddo. Buddsoddodd y dioddefwyr gyfanswm o £307,975 a throsglwyddwyd y rhan fwyaf o'r arian hwn i gyfrifon banc Audrey a'i meibion fel petai'n eiddo iddyn nhw.
Roedd y buddsoddwyr yn cynnwys athro wedi ymddeol a gyfrannodd swm sylweddol o'i gynilion ymddeol, athro arall a fuddsoddodd yr arian a gafodd o ganlyniad i salwch difrifol, a chwpwl a fuddsoddodd eu harian er mwyn rhoi sicrwydd ariannol i'w plant.
Cafodd dioddefwr arall ei ddarbwyllo i gymryd morgais yn ei enw ei hun ar gyfer un o blotiau Dreamscape Homes Ltd. Cafodd y dioddefwr sicrwydd gan Osborne a'i meibion y byddai Dreamescape yn talu'r ad-daliadau misol, ond daeth y trefniant hwn i ben yn sydyn.
Dywedodd yr Ymchwilydd Ariannol, Craig Brown:
“Mae maint y twyll ariannol a gyflawnwyd gan y teulu hwn yn erbyn nifer fawr o ddioddefwyr dros gyfnod o bum mlynedd wedi achosi'r ymchwiliad hwn i fod yn un cymhleth.
“Roedd dioddefwyr y troseddau hyn yn bobl â'r bwriadau gorau, yn ceisio gwneud bywyd yn well i'w hunain a'u teuluoedd, a chymerodd Osborne a'i meibion fantais o hynny er eu budd ariannol eu hunain.
“Mae'r Uned Troseddau Economaidd a minnau yn gweithio'n ddygn er mwyn datrys y troseddau ariannol cymhleth hyn, ac rwy'n gobeithio bod ein hymchwiliad yn dangos na fydd y math hwn o droseddu yn cael ei anwybyddu."
Dedfrydwyd Audrey Osborne, Gary Moore, Clayton Moore ac Ian Moore i ddwy flynedd o garchar yr un, wedi ei ohirio am 12 mis.