Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
14:15 09/11/2021
Ddydd Sadwrn 13 Tachwedd a dydd Sul 14 Tachwedd 2021, bydd Gwasanaeth Cownter Blaen Gorsaf Heddlu y Barri ar gau er mwyn cwblhau gwaith cynnal a chadw hanfodol. Mewn argyfwng, mae ffôn melyn y tu allan i Orsaf Heddlu y Barri sydd â chysylltiad uniongyrchol ag Ystafell Reoli'r Heddlu. Nodir isod amseroedd agor y Gwasanaeth Desg Flaen agosaf a fydd ar agor ynghyd â manylion ffyrdd eraill y gallwch gysylltu â Heddlu De Cymru. Hoffwn ymddiheuro am yr angen i gau'r orsaf ar y ddau ddiwrnod hyn.
Gorsaf Heddlu Bae Caerdydd
Stryd James
Caerdydd
CF10 5EW
Amseroedd agor: 0800-0000
Gorsaf Heddlu Canol Caerdydd
King Edward VII Avenue
Caerdydd
CF10 3NN
Amseroedd agor: 0900-1700
Gorsaf Heddlu Pen-y-bont ar Ogwr,
Stryd Bracla
Pen-y-bont ar Ogwr
CF31 1BZ
Amseroedd agor: 0900-1700
Ffyrdd eraill o gysylltu â Heddlu De Cymru
• Os oes trosedd yn digwydd nawr neu os oes rhywun mewn perygl uniongyrchol, ffoniwch 999 nawr.
• Os oes gennych nam ar eich clyw neu ar eich lleferydd, defnyddiwch ein gwasanaeth ffôn testun 18000 neu anfonwch neges destun atom ar 999 os ydych wedi cofrestru ymlaen llaw â'r gwasanaeth neges destun brys
• Dolen i wefan Heddlu De Cymru ar gyfer gwasanaethau ar-lein Cysylltu â ni | Heddlu De Cymru (south-wales.police.uk)
• Ffoniwch 101 ar gyfer ymholiadau nad ydynt yn rhai brys.
Os oes gennych nam ar eich clyw neu ar eich lleferydd, defnyddiwch ein gwasanaeth ffôn testun ar 18001 101