Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
14:14 05/11/2021
![]() |
![]() |
Heddiw, carcharwyd dau yrrwr a achosodd farwolaeth mam-gu annwyl ddyddiau cyn y Nadolig, wrth iddynt rasio ar hyd ffordd yn y cymoedd ar gyflymderau o hyd at 100 mya.
Disgrifiodd tystion iddynt weld Levi Edwards a Morgan Sansom "yn gyrru fel ffyliaid" ychydig cyn i Edwards golli rheolaeth ar ei BMW coch a gwrthdaro â char a oedd yn cael ei yrru gan Shirley Hope, 84 oed, ar brynhawn yr 20fed o Ragfyr, 2019.
Wrth i Mrs Hope orwedd yn marw yn lleoliad y gwrthdrawiad ar Heol Rhigos, Hirwaun, gyrrodd Sansom i ffwrdd yn ei BMW gwyn, cyn dychwelyd am gyfnod byr a gadael unwaith eto cyn i'r gwasanaethau brys gyrraedd.
Cafodd Edwards ei arestio ar y safle dan amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus.
Dywedodd wrth y swyddogion a'i arestiodd: "Felly rwy'n credu imi ddod rownd y gornel. Llithrais i, tarodd fy olwyn ymyl y cyrbyn. Daeth pen ôl y car tuag allan, a gwnaeth hithau daro ochr fy nghar. Rwy'n credu i'm pen ôl ddod allan gyntaf."
Cafodd Sansom ei arestio yn ei gartref yn Hirwaun yn ddiweddarach, dan amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus a methu â stopio yn dilyn gwrthdrawiad a rhoi gwybod amdano. Dywedodd wrth y swyddogion a'i harestiodd: "Gwnes i droi rownd a dod nôl."
Mewn cyfweliad, dywedodd wrth y swyddogion iddo ddychwelyd i safle'r gwrthdrawiad lle mae'n honni i rywun ddweud wrtho fod Mrs Hope yn dal yn fyw felly dychwelodd adref.
Fodd bynnag, clywodd Llys y Goron Merthyr Tudful, cyn iddo wneud hynny ac wrth i bobl eraill ar y safle geisio helpu'r ddioddefwraig, cymerodd Sansom ffotograff didrugaredd o'r dinistr a'i bostio ar Snapchat yn nes ymlaen gyda'r capsiwn Saesneg 'Bad crash'.
Mewn gwrandawiad cynharach ar 8 Hydref eleni, plediodd Edwards, 27 oed a Sansom, 23 oed, yn euog o achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus.
Heddiw, cafodd Edwards ei garcharu am chwech blynedd, tra cafodd Sansom ei garcharu am chwech blynedd a thri mis. Hefyd, fe'u gwaharddwyd y ddau rhag gyrru; Edwards am chwech blynedd a Sansom am chwech blynedd, un mis.
Mewn datganiad ar ran y teulu, dywedodd plant Mrs Hope yn dorcalonnus:
"Hoffem fel teulu ddiolch i Heddlu De Cymru am eu gwaith caled yn sicrhau cyfiawnder i mam heddiw.
"Diolch yn arbennig i Lee a Guy, y swyddogion ymchwilio ac i Nerys, ein Swyddog Cyswllt Teuluol.
"Nid yw'r diffynyddion, Levi Edwards a Morgan Sansom, wedi dangos unrhyw edifeirwch am ladd mam.
"Rydym yn fodlon y bydd ganddynt ddigon o amser nawr i fyfyrio ar eu troseddau tra yn y carchar."
Gan siarad ar ôl y ddedfryd, dywedodd yr Uwch-swyddog Ymchwilio, y Ditectif Ringyll Lee Christer:
"Gall ceir fod yn arfau marwol yn nwylo gyrwyr anghyfrifol a dienaid fel y profwyd yn drychinebus ar 20 Rhagfyr, 2019.
"Y diwrnod hwnnw, rasiodd Levi Edwards a Morgan Sansom eu ceir heb roi unrhyw ystyriaeth o gwbl i gyfreithiau'r ffordd nac i ddiogelwch defnyddwyr eraill y ffordd. Gwnaeth eu penderfyniad i ddefnyddio'r ffordd fel trac rasio arwain at farwolaeth mam-gu annwyl a dinistrio bywydau cymaint o bobl eraill.
"Hoffwn dalu teyrnged i deulu Shirley Hope, sydd wedi dangos cryfder ac urddas aruthrol yn ystod yr hyn a fu yn ymchwiliad hir a chymhleth.
"Cynhaliwyd ymholiadau helaeth o deledu cylch cyfyng, gwaith ffôn a dadansoddiadau fforensig yn yr achos hwn er mwyn gwrthbrofi llawer o'r honiadau a wnaed gan y diffynyddion ac i brofi eu bod yn euog. Mae hynny, ynghyd af effaith COVID-19 ar y broses farnwrol, wedi golygu y bu'n rhaid i deulu Mrs Hope aros yn hir i weld cyfiawnder yn cael ei gyflawni.
"Rwy'n gobeithio y bydd canlyniad heddiw yn rhoi ychydig o gysur iddynt wrth iddynt ddechrau ailadeiladu eu bywydau."