Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
14:37 17/11/2021
Mae saith dyn o Gaerdydd wedi cael eu carcharu am gyfanswm o saith mlynedd a dau fis.
Yn dilyn stop arferol ym mis Hydref, daeth y swyddogion o hyd i wybodaeth o'r ffonau y gwnaethant eu hatafaelu a wnaeth arwain at chwilio sawl eiddo, lle cafodd sawl ffatri canabis a chanddynt werth stryd sylweddol eu canfod, eu hatafaelu a'u dinistrio.
Yn dilyn ymchwiliad gan Dîm Troseddau Cyfundrefnol Caerdydd a'r Fro, cafodd y dynion eu cyhuddo a'u cadw yn y ddalfa. Oherwydd cryfder y dystiolaeth yn eu herbyn, plediodd pob un ohonynt yn euog i gynhyrchu canabis.
Cawsant eu dedfrydu ddydd Gwener, 12 Tachwedd:
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Dominic Belotti:
"Bydd y dedfrydau hyn yn cael dylanwad mawr o ran tarfu ar y cyflenwad cyffuriau i gymunedau Caerdydd.
"Rydym yn cydnabod y niwed a ddaw yn sgil cyflenwi cyffuriau i ardal, ac rydym yn ymrwymedig i ymdrin â'r sawl sy'n gyfrifol am y troseddau hynny.
"Rydym yn parhau i annog pobl i gysylltu â ni ag unrhyw wybodaeth neu bryderon yn ymwneud â chyflenwi cyffuriau yn eu cymuned.
“Os byddwch yn amau bod pobl yn delio mewn cyffuriau neu os byddwch yn poeni bod person ifanc neu oedolyn sy'n agored i niwed wedi cael ei dargedu gan grŵp troseddau cyfundrefnol, rhowch wybod i ni. Nid oes angen i chi fod yn bendant, dim ond yn bryderus.”
Gellir rhoi gwybod drwy un o'r ffyrdd canlynol, neu yn ddienw trwy'r elusen annibynnol Crimestoppers ar 0800 555 111.
Anfonwch neges breifat atom drwy Facebook/Twitter
Drwy e-bost: [email protected]
Ffoniwch: 101
Mewn argyfwng, deialwch 999️ bob amser.