Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
15:36 07/05/2021
Diweddariad, 8 Gorffennaf 2021: Ar 7 Gorffennaf 2021, cafodd dedfryd Ricardas Mikuckis ei chynyddu gan y Cyfreithiwr Cyffredinol. Darllenwch fwy yn Swyddfa'r Twrnai Cyffredinol.
Mae dyn rheibus a wnaeth esgus bod yn yrrwr tacsi i ddenu merch feddw yn ei harddegau i'w gerbyd cyn ymosod arni'n rhywiol, wedi'i garcharu.
Gwadodd Ricardas Mikuckis ei fod wedi ymosod ar y ferch, a oedd yn 18 oed ar y pryd, ar ôl iddo gytuno i fynd â hi adref i'r Barri yn oriau mân y bore ar 29 Awst 2019, ond fe'i dyfarnwyd yn euog gan reithgor yn Llys y Goron Caerdydd.
Clywodd y llys fod system teledu cylch cyfyng (CCTV) wedi ffilmio'r dyn 33 oed o Gasnewydd yn loetran yn ei Ford Kuga coch ar Heol y Brodyr Llwydion yng nghanol dinas Caerdydd pan adawodd y ferch, na ellir ei henwi am resymau cyfreithiol, glwb yn chwilio am dacsi.
Ar ôl ei gwylio'n siarad â gyrrwr tacsi, a fenthycodd ei ffôn symudol i'r ferch er mwyn iddi geisio ffonio rhywun i gael arian i dalu am y tacsi adref cyn iddi gerdded i ffwrdd, manteisiodd Mikuckis ar ei gyfle a stopiodd ei gar wrth ochr y dioddefwr.
Gan gredu ei fod yn yrrwr tacsi trwyddedig, aeth y dioddefwr i mewn i'r cerbyd.
Wrth iddynt nesáu at y Barri, dychrynodd y dioddefwr pan drodd y gyrrwr yn annisgwyl oddi ar yr A4231, Ffordd Gyswllt Dociau'r Barri, i mewn i lôn ddiarffordd.
Er i'r dioddefwr ddweud wrtho ei fod yn mynd y ffordd anghywir, stopiodd Mikuckis ei gerbyd cyn ei adael yn bwyllog, cloi'r drysau a smygu sigarét.
Wedyn, dychwelodd ac ymosododd ar y ferch yn rhywiol, gan ei chusanu a chyffwrdd â hi, cyn iddi lwyddo i ymladd yn ôl a ffoi.
Fflagiodd y ferch gerbyd a oedd yn mynd heibio a dywedodd wrth y gyrrwr fod rhywun wedi ymosod arni.
Hysbyswyd yr heddlu ac ar ôl edrych yn ofalus ar ddeunydd fideo o gamerâu CCTV a defnyddio technoleg ANPR, daethpwyd o hyd i Mikuckis a chafodd ei arestio. Roedd stwmp sigarét a ganfuwyd yn lleoliad yr ymosodiad hefyd yn cynnwys ei DNA.
Heddiw, dedfrydwyd Mikuckis i 15 mis yn y carchar ar ôl cael ei ddyfarnu'n euog o ymosod yn rhywiol.
Yn dilyn yr achos, dywedodd y Rhingyll Mark Wonnacott, a oedd yn swyddog yn yr achos:
“Ar ôl gwylio'r deunydd CCTV a chyfweld â'r dioddefwr trallodus yn yr achos hwn, does dim amheuaeth nad yw Ricardas Mikuckis yn unigolion rheibus a aeth allan y noson honno gyda'r bwriad o chwilio am fenyw agored i niwed i ymosod arni.
“Mae'r deunydd CCTV yn frawychus a'r hyn a ddigwyddodd i'r dioddefwr ifanc yn yr achos hwn yw hunllef waethaf pob menyw. Mae ei dewrder wrth ymladd yn ôl yn erbyn ei hymosodwr y noson honno ac wrth gefnogi'r erlyniad hwn er mwyn sicrhau bod yr unigolyn peryglus hwn yn cael ei garcharu, i'w canmol.
“Mae hyn wedi cael effaith ddinistriol arni, gan chwalu ei hyder a'i hymddiriedaeth mewn eraill, ac ni allaf ond gobeithio bod y ddedfryd heddiw yn rhoi rhywfaint o gysur iddi ac yn ei galluogi i ddechrau ailadeiladu ei bywyd.
“Rwyf hefyd yn gobeithio y bydd yn rhoi hyder i ddioddefwyr eraill ymosodiadau rhywiol, a allai fod yn amharod i roi gwybod amdano, wneud hynny. Mae gennym swyddogion sydd wedi cael hyfforddiant arbenigol ac rydym yn gweithio gydag amrywiaeth eang o wasanaethau cymorth er mwyn sicrhau bod dioddefwyr yn cael eu cefnogi'n llawn.”
Gellir rhoi gwybod am ymosodiadau rhywiol drwy ffonio 999 mewn argyfwng, 101, neu Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555 111.
Mae help, cyngor a manylion gwasanaethau cymorth hefyd ar gael ar y tudalennau ar ein gwefan sy'n rhoi cyngor ar drais ac ymosodiadau rhywiol.