Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
14:09 28/05/2021
Cafodd Nikki Flowers, sy'n 40 oed o Lanisien yng Nghaerdydd, ei ddedfrydu heddiw yn Llys y Goron Caerdydd am wyngalchu arian ar ôl cael Flowers yn euog yn unfrydol gan y rheithgor ar 20 Ebrill 2021. Mae wedi cael dedfryd ohiriedig am 18 mis, cafodd ei wahardd rhag bod yn gyfarwyddwr am bum mlynedd a gorchmynnwyd iddo dalu £562.31 fel iawndal, costau erlyn o £1,000 a gordal o £140.
Ym mis Mai 2018, roedd Flowers yn gweithredu fel cefnogwr gwyngalchu arian ar gyfer gangiau troseddol dramor. Roedd hyn yn cynnwys derbyn arian a gafwyd yn anghyfreithlon a cheisio trosglwyddo rhannau o'r arian hynny i gyfrifon banc darpar aelodau o'r gangiau.
Cafwyd yr arian a dderbyniwyd o ganlyniad i neges e-bost ‘gwe-rwydro’ dwyllodrus, a chafodd Nationwide Platforms Ltd (NPL) ei dwyllo ganddi.
Roedd y neges e-bost dwyllodrus yn honni ei bod o BT, ac yn darparu manylion cyfrif banc ‘newydd’, gan esbonio y dylid gwneud pob taliad i'r cyfrif hwnnw yn y dyfodol. Yn ddiarwybod i NPL, roedd y manylion banc hyn yn perthyn i gwmni o'r enw Massive Dynamic Inc. Ltd (MDiL) mewn gwirionedd, a Nikki Flowers oedd yr unig Gyfarwyddwr.
Ar ôl i NPL wneud taliad o £192,892.09 i'r manylion ffug hyn, ceisiodd Flowers godi'r arian hwnnw a'i drosglwyddo i'w gymheiriaid troseddol, y credir eu bod o'r Iseldiroedd, UDA, Nigeria a Ffrainc.
Methodd Flowers yn ei ymdrechion ac, yn y pen draw, arweiniodd ei weithredoedd at roi gwybod i Action Fraud am achosion o dwyll yn ei erbyn. Daeth ymchwiliadau gan Uned Trosedd Economaidd Heddlu De Cymru o hyd i ddeunydd teledu cylch cyfyng a galwadau ffôn wedi'u recordio i’w fanc, a defnyddiwyd y ddau fel tystiolaeth yn ei erbyn yn y llys.
Dywedodd Michelle Fogarty, o Wasanaeth Erlyn y Goron:
“Er bod y math hwn o dwyll yn aml wedi'i dargedu at gwmnïau, mae'n cael effaith wirioneddol a pharhaol ar weithwyr y cwmnïau hyn, a gallai eu bywoliaeth fod mewn perygl o ganlyniad uniongyrchol i golledion yr aethpwyd iddynt gan eu cyflogwr.”
Os byddwch yn amau unrhyw weithgarwch twyllodrus, rhowch wybod amdano yn un o'r ffyrdd canlynol:
Mewn argyfwng, ffoniwch 999 bob amser.
I gael rhagor o wybodaeth:
Twyll ‘Anfonebau ffug’: Action Fraud
‘Cefnogi gwyngalchu arian’:Action Fraud
Pecyn cymorth i sefydliadau, busnesau ac unigolion: Take Five