Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
20:00 02/05/2021
Mae ditectifs sy'n ymchwilio i farwolaeth Tomasz Waga ar 28 Ionawr wedi cyhuddo pedwerydd dyn mewn cysylltiad â'i lofruddiaeth.
Mae Ardit Mehalla, 24 oed, o Enfield yn Llundain, wedi'i gyhuddo o lofruddiaeth a bydd yn ymddangos gerbron Llys Ynadon Caerdydd ddydd Llun 3 Mai.
Mae dyn 41 oed o'r Tyllgoed yng Nghaerdydd, a gafodd ei arestio ddoe dan amheuaeth o lofruddiaeth hefyd, wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth yr heddlu nes y bydd ymchwiliadau pellach wedi cael eu cwblhau.
Mae tri dyn arall eisoes wedi cael eu cyhuddo mewn cysylltiad â llofruddiaeth Tomasz Waga ac yn cael eu cadw yn y ddalfa nes y cynhelir achos llys.