Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
16:29 19/06/2021
Gall Heddlu De Cymru gadarnhau marwolaeth sydyn dyn ym Mhentwyn, Caerdydd, yn oriau mân y bore heddiw.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i Lyn Collen tua 1am.
Nid yw'r dyn wedi cael ei enwi'n ffurfiol eto, ond credir ei fod yn ddyn lleol 30 oed. Mae'r perthnasau agosaf wedi cael gwybod am hyn.
Ar hyn o bryd, mae'n ymddangos mai digwyddiad meddygol yw'r farwolaeth, heb unrhyw amgylchiadau i beri amheuon.
Mae trefniadau ynysu'r heddlu ar waith wrth i ymholiadau fynd yn eu blaen.
Gofynnir i unrhyw dystion neu unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â Heddlu De Cymru gan ddyfynnu rhif digwyddiad *214675.
Ewch i: https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/cysylltu-a-ni/af/cysylltu-a-ni/us/cysylltu-a-ni/darparu-mwy-o-wybodaeth-iw-hychwanegu-at-adroddiad-trosedd/
Anfonwch neges breifat atom drwy Facebook/Twitter
Drwy e-bost: [email protected]Ffoniwch: 101
* Mae'r mater wedi cael ei atgyfeirio at Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu.