Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
11:02 30/06/2021
Mae ditectifs sy'n ymchwilio i farwolaeth Tomasz Waga ar 28 Ionawr 2021 wedi cyhuddo pumed dyn mewn cysylltiad â'i farwolaeth.
Mae Ledjan Qevani, sy'n 33 oed, o Wood Green yn Llundain wedi ei gyhuddo o lofruddiaeth ac roedd disgwyl iddo ymddangos gerbron Llys Ynadon Caerdydd heddiw (dydd Gwener, 25 Mehefin 2021).
Mae pedwar dyn arall eisoes wedi cael eu cyhuddo mewn cysylltiad â'i farwolaeth ac yn cael eu cadw yn y ddalfa tan yr achos llys.
Mae'r heddlu'n parhau i chwilio am dri dyn arall ar amheuaeth o lofruddio Mr Waga, sef:
Gledis Mehalla, 19 oed, cyfeiriad hysbys diwethaf yn ardal Cathays, Caerdydd.
Elidon Elezi, 22 oed, cyfeiriad hysbys diwethaf yn ardal East Finchley, Llundain.
Artan Pelluci, 29 oed, cyfeiriad hysbys diwethaf yn ardal Cathays, Caerdydd.
Atafaelwyd nifer o gerbydau fel rhan o'r ymchwiliad, ond mae'r ymchwiliad yn dal i ganolbwyntio ar leoliad Mercedes C200 Sport arian/llwyd, rhif cofrestru BK09 RBX.
Gwelwyd y Mercedes, sydd â chysylltiadau â'r ymchwiliad ac a allai gynnwys tystiolaeth hanfodol, yng Nghaerdydd ar ddiwrnod y llofruddiaeth ond nid yw wedi cael ei weld ers hynny.
Mae Taclo'r Tacle yn parhau i gynnig gwobr o £5,000 am wybodaeth am leoliad y Mercedes.
Mae perchennog cofrestredig blaenorol y cerbyd yn byw yn ardal y Tyllgoed yng Nghaerdydd, ac nid yw'n gysylltiedig â'r ymchwiliad hwn o gwbl.
Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio 101 / anfon e-bost i [email protected] neu ddarparu gwybodaeth ar-lein drwy'r Porth Cyhoeddus Ymchwiliadau Mawr: https://mipp.police.uk/operation/62SWP21B26-PO1