Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
10:42 03/06/2021
Mae dau ddyn wedi cael eu harestio ym Mharis mewn cysylltiad â llofruddiaeth Tomasz Waga.
Daeth aelod o'r cyhoedd o hyd i gorff Tomasz am tua 11.30pm nos Iau 28 Ionawr ar Westville Road, Pen-y-lan, Caerdydd. Roedd wedi dioddef ymosodiad parhaus.
Mae pedwar dyn eisoes wedi cael eu cyhuddo mewn cysylltiad â'i farwolaeth ac yn cael eu cadw yn y ddalfa nes y cynhelir achos llys.
Mae teulu Tomasz wedi cael y wybodaeth ddiweddaraf am y datblygiadau diweddaraf yn Ffrainc, ac maent yn parhau i gael eu cefnogi gan Swyddogion Cyswllt â Theuluoedd.
Dywedodd DCI Mark O'Shea, Uwch-swyddog Ymchwilio: “Gallwn gadarnhau bod dau unigolyn dan amheuaeth sy'n 26 oed a 27 oed wedi cael eu harestio ym Mharis yn dilyn ymgyrch dan arweiniad Swyddogion Troseddau Mawr Heddlu De Cymru, cydweithwyr o’r Ganolfan Cydgysylltu Troseddau Rhyngwladol a’r Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol.
“Rydym bellach yn gweithio gyda Gwasanaeth Erlyn y Goron i sicrhau y caiff y ddau ddyn eu hestraddodi o Ffrainc yn ôl i’r Deyrnas Unedig ar unwaith.”
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
Mae'r heddlu'n parhau i chwilio am bedwar dyn arall ar amheuaeth o lofruddio Mr Waga, sef:
Hefyd, apeliodd DCI Mark O’Shea yn uniongyrchol at yr unigolion dan amheuaeth nad ydynt wedi cael eu dal eto i fynd at yr heddlu o'u gwirfodd.
“Byddwn yn ymdrechu'n ddi-baid i'ch dal ac rydym yn eich annog i wneud y peth iawn a mynd at yr heddlu o'ch gwirfodd. Rwy’n dweud wrth y pedwar unigolyn rydym yn chwilio amdanynt, y byddai o fudd i chi fynd at yr heddlu o'ch gwirfodd a dweud wrthym beth ddigwyddodd ar y noson honno ym mis Ionawr.
“Ni fydd ffiniau rhyngwladol yn ein rhwystro wrth fynd ar ôl pobl yr amheuir eu bod wedi llofruddio yn y DU. Mae gennym gysylltiadau rhagorol â chydweithwyr gorfodi'r gyfraith ledled Ewrop, gan gynnwys Albania.Rwy'n rhagweld cyfleoedd i gydweithio ymhellach wrth i ni fynd ar ôl yr unigolion dan amheuaeth nad ydynt wedi cael eu dal eto, felly byddwn yn eich dal yn y pen draw. Byddai’n well i chi fynd at yr heddlu o'ch gwirfodd a byddwch yn cael eich trin yn deg yn unol â chyfreithiau’r DU.”
Atafaelwyd nifer o gerbydau fel rhan o'r ymchwiliad, ond mae'r ymchwiliad yn dal i ganolbwyntio ar leoliad Mercedes C200 Sport arian/llwyd, rhif cofrestru BK09 RBX.
Gwelwyd y Mercedes, sydd â chysylltiadau i'r dynion y mae'r heddlu yn chwilio amdanynt, yng Nghaerdydd ar ddiwrnod y llofruddiaeth ond nid yw wedi cael ei weld ers hynny. Gallai gynnwys tystiolaeth hanfodol a helpu i arwain swyddogion at yr unigolion dan amheuaeth nad ydynt wedi cael eu dal eto.
Mae Taclo'r Tacle yn parhau i gynnig gwobr o £5,000 am wybodaeth am leoliad Gledis Mehalla a'r Mercedes.
Mae gan bob un o’r pedwar dyn y mae'r heddlu'n chwilio amdanynt gysylltiadau â Lushnje yn Albania, Swydd Efrog, gogledd-orllewin Llundain a Bryste
Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio 101 neu ddarparu gwybodaeth ar-lein drwy'r Porth Cyhoeddus Ymchwiliadau Mawr: Porth Cyhoeddus (mipp.police.uk)
Fel arall, gallwch ffonio Taclo'r Tacle yn ddienw, ar 0800 555 111.