Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn o'r Rhondda a bwyntiodd arf tanio ffug at berchennog siop cebab, ar ôl iddo ddweud wrtho am aros y tu allan i'r siop am nad oedd yn gwisgo masg, wedi cael ei garcharu.
Cerddodd Paul Griffiths, 57 oed, o Heol Penrhys, Ystrad, i mewn i ‘Rhondda Takeaway’ ar Heol Gelligaled am tua 10.15pm ar 5 Tachwedd 2020, a cheisiodd archebu bwyd. Pan ofynnwyd iddo wisgo masg, gwrthododd wneud hynny, felly dywedwyd wrtho am aros y tu allan.
Wrth i'r perchennog geisio egluro pam ei fod yn gofyn iddo wisgo masg, tynnodd Griffiths ddryll ffug o'i boced a'i bwyntio at y bobl y tu mewn i'r siop.
Neidiodd cwsmer a gyrrwr danfon nwyddau y tu ôl i'r cownter, gan ofni y byddent yn cael eu saethu. Yna rhedodd y gyrrwr danfon nwyddau i ran breswyl yr adeilad gan ddweud wrth bobl am gloi'r drws, cyn rhedeg allan o gefn y siop a ffonio 999.
Cyrhaeddodd swyddogion heddlu arfog o fewn munudau, gan arestio Griffiths a mynd ag ef i'r ddalfa.
Ar ôl iddo gael ei arestio, cafodd swyddogion warant i chwilio ei gartref yn Heol Penrhys lle daethpwyd o hyd i ffatri canabis.
Roedd y dryll a atafaelwyd gan yr heddlu yn ddryll tebyg i arf tanio peledu paent wedi'i bweru gan CO2, sydd wedi'i wahardd.
Cafodd ei gyhuddo o feddu ar arf tanio mewn man cyhoeddus gyda'r bwriad o achosi ofn trais, meddu ar arf sydd wedi'i wahardd, a chynhyrchu canabis.
Ymddangosodd gerbron Llys Ynadon Merthyr Tudful ar 20 Mai ar ôl pledio'n euog a chafodd ei garcharu am 20 mis.
Dywedodd y swyddog a oedd yn gyfrifol am ymchwiliad yr heddlu, Ditectif Gwnstabl Lucy Robins: “Roedd gweithredoedd Griffiths y noson honno yn dwp ac yn fyrbwyll. Roedd y bobl a oedd yn siop y noson honno yn ofni am eu bywydau.
“Hoffwn ganmol gweithredoedd y perchennog a gadwodd ei ben, gan flaenoriaethu diogelwch pobl eraill drwy geisio cadw'r dyn y tu mewn i'r siop. Cysylltwyd â'r heddlu yn gyflym, gan olygu bod ein swyddogion heddlu arfog yno mewn munudau tra roedd y dyn yn dal i fod ar y safle.”