Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
16:34 30/07/2021
Mae Heddlu De Cymru yn ceisio barn pobl sydd wedi ymweld ag Ynys y Barri yr haf hwn er mwyn cael dealltwriaeth well o deimladau ynghylch diogelwch.
Bydd arolwg o fusnesau ac ymwelwyr yn cael ei gynnal dros wyliau'r haf er mwyn dysgu am brofiadau personol a chlywed safbwyntiau ar blismona.
Gellir cwblhau'r arolwg drwy'r cod QR ar bosteri sy'n cael eu harddangos o gwmpas Ynys y Barri.
Yn y cyfamser, mae Ymgyrch Elstree – sef ymgyrch amlasiantiaeth yn ystod yr haf sy'n cwmpasu arfordir Caerdydd a Bro Morgannwg – yn parhau ar ôl rhai canlyniadau cadarnhaol.
Mae'r canlyniadau hyd yma yn cynnwys y canlynol:
Gostyngiad o 32 y cant mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol o gymharu â'r un cyfnod y llynedd.
Atafaelwyd 23 o litrau o alcohol.
Daethpwyd o hyd i 21 o blant yn ddiogel ac yn iach.
Mae Ymgyrch Elstree yn cynnwys lleoliadau allweddol gan gynnwys Bae Caerdydd, Penarth ac Ynys y Barri, yn ogystal â'r Arfordir Treftadaeth rhwng Trwyn y Rhws ac Aberogwr.
Lansiwyd yr ymgyrch ym mis Mai a bydd yn rhedeg tan fis Medi.
Caiff swyddogion yn y gymdogaeth leol eu cefnogi gan gydweithwyr ym mhob rhan o Heddlu De Cymru, gan gynnwys Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu, Swyddogion ymateb, Gwasanaethau Cymorth Gweithredol a'r Gwnstabliaeth Wirfoddol, ynghyd ag amrywiaeth o gydweithwyr o'n hasiantaethau partner.
Mae'r Gwnstabliaeth Wirfoddol wedi cyfrannu mwy na 120 awr i'r ymgyrch hyd yma.
Bydd yn gweithio fel tîm i atal troseddau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol, gan sicrhau y gall preswylwyr ac ymwelwyr sy'n dilyn y gyfraith fwynhau'r ardaloedd arfordirol hyn mewn heddwch.
Caiff ymwelwyr eu hatgoffa i nofio ar draethau lle mae achubwyr bywyd, sicrhau bod barbeciwiau yn cael eu diffodd yn llawn a gwaredu sbwriel yn gyfrifol.
Cafwyd adroddiadau diweddar o 'tombstoning' – lle bydd pobl yn y neidio i ddŵr o uchder sylweddol – mewn nifer o leoliadau, gan gynnwys Trwyn y Rhws.
Mae hyn yn beryglus iawn ac anogir rhieni i siarad â'u plant am y risgiau.
Dywedodd y Prif Arolygydd Bella Rees o Heddlu De Cymru: “Byddwn yn parhau i weithio gyda'n partneriaid dros yr haf i fynd ar batrôl mewn ardaloedd allweddol er mwyn atal ymddygiad gwrthgymdeithasol a throseddoldeb, a chadw'r gymuned yn ddiogel.
"Mae gwyliau haf ysgolion yn gyfnod prysur iawn i'n hardaloedd arfordirol gyda miloedd o bobl yn ymweld â gwersyllfeydd lleol.
“Diolch byth, mae'r mwyafrif helaeth o bobl sy'n ymweld â'n hardaloedd arfordirol hyfryd yn ymddwyn yn briodol ac yn unol â'r rheoliadau.”
Er bod y penwythnosau diwethaf wedi bod yn dawel ar y cyfan, mae hysbysiadau Adran 35 yn Ynys y Barri ac Aberogwr yn rhoi'r pŵer i swyddogion symud pobl ymlaen os byddant yn ymddwyn yn wrthgymdeithasol.
#OpElstree #CadwBroMorgannwgYnDdiogel
Dilynwch ni ar Twitter @swpValeofGlamorgan a @swpCardiff
#OperationElstree #OpElstree #CadwBroMorgannwgYnDdiogel #CadwCaerdyddYnDdiogel