Stamp amser presennol: 28/01/23 13:27:57
OedRhybuddDienwApeliadauCeisiadauGwneud cais neu GofrestruAmlinelliad ardalSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fynyDrysau AwtomatigSaeth yn ôlBusnesCalendrArian parodSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fyny[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-chrome' for 'Welsh (United Kingdom)']ClocCaucysylltuCyfarwyddiadauDogfenLawrlwythoLluniaduCyffurEhanguDolen allanolFacebookHoffi ar FacebookSylw ar FacebookMath ffeil diofynMath ffeil DOCMath ffeil PDFMath ffeil PPTMath ffeil XLSCyllid[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-firefox' for 'Welsh (United Kingdom)']Cymorth cyntafFlickrTwyllRhoi adborthBydCi tywysIechydNam ar y clywDolen AnwythoGwybodaethInstagramIntercom[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-internet-explorer' for 'Welsh (United Kingdom)']GliniadurLifftLinkedinGweithgarwch lleolUchelseinyddCownter iselPostMapPin MapAelodaethDewislenDewislen[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-microsoft-edge' for 'Welsh (United Kingdom)']Pobl ar gollNam symud o gwmpasCenedligrwyddPwyntydd gogleddRadiws un milltirTrosolwgTudalennauAwyren bapurParcioPDFFfônPinterestChwaraeCadair dreigloAdnewydduRiportioCaisAilddechrau[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-rotate-clockwise' for 'Welsh (United Kingdom)']Rss[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-safari' for 'Welsh (United Kingdom)']ChwilioRhannuIaith arwyddionSnapchatDechrau etoYstadegauYstadegau a chyngor ar atalStopioTanysgrifioTargedTatŵsDweud wrthon ni amTicTumblrPedair awr ar hugainTwitterHoffi ar TwitterAteb ar TwitterAildrydar ar TwitterLanlwythoNam ar y golwgWhatsappCadair olwynionCymorth cadair olwynionParcio i gadair olwynionRamp i gadair olwynionTŷ bach i gadair olwynionYoutubeChwyddo mewnChwyddo allan

Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym

Neidio i’r prif gynnwys

Neidio i’r prif lywio

Croeso

Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.

Dechrau nawr

South Wales Police_ website_ left-hand Corner_ flat White Crest

Chwilio’r wefan hon

Prif ddewislen llywio

  • Riportio

    Yn ôl i Riportio

    • Trosedd
    • Riportio camdriniaeth ddomestig
    • Treisio, ymosod rhywiol a throseddau rhywiol eraill
    • Digwyddiad traffig ffyrdd
    • Riportio ymddygiad gwrthgymdeithasol
    • Person sydd ar goll
    • Twyll, llwgrwobrwyo neu lygredd
    • Anghydfodau sifil
    • Eiddo coll neu eiddo y daethpwyd o hyd iddo
    • Cerbydau ar goll neu wedi’u dwyn
  • Rhoi gwybod i ni

    Yn ôl i Rhoi gwybod i ni

    • Sut i roi gwybod i ni am weithgarwch terfysgol posibl
    • Sut i ddweud wrthym am rywbeth rydych chi wedi'i weld neu ei glywed
    • Achos neu adroddiad sy'n bodoli eisoes
    • Gorymdaith neu ddigwyddiad rydych yn ei gynllunio
    • Ffilmio
    • Llwythi annormal
  • Gwneud cais neu gofrestru

    Yn ôl i Gwneud cais neu gofrestru

    • Gyrfaoedd
    • Trwyddedau casglu ar gyfer elusennau
    • Digollediad i ddioddefwyr troseddau
    • Dystysgrif arf tanio, dryll neu ffrwydron
    • Mynd i wrandawiad camymddygiad
  • Cais

    Yn ôl i Cais

    • Gofyn am adroddiad ar wrthdrawiad
    • Sut i wneud cais am drwydded eiddo deallusol
    • Gwneud cais am eich olion bysedd
    • Gwybodaeth: am yr heddlu, amdanoch chi neu rywun arall
  • Diolchiadau a chwynion

    Yn ôl i Diolchiadau a chwynion

    • Gwneud cwyn
    • Dweud diolch
    • Adborth am y wefan
  • Eich ardal chi

Llofruddiaeth Tomasz Waga: Dau ddyn arall yn cael eu cyhuddo

Cynnwys y prif erthygl

Llywio

Y diweddaraf

16:09 25/07/2021

Tomasz Waga suspects and car.png

Mae ditectifs sy'n ymchwilio i farwolaeth Tomasz Waga ar 28 Ionawr 2021 wedi cyhuddo dau ddyn arall mewn cysylltiad â'i lofruddiaeth, gan godi'r cyfanswm presennol i wyth.

Cyhuddwyd Josif Nushi, 26 oed, o Ben-y-lan, Caerdydd a Mihal Dhana, 28 oed, o'r Waun Ddyfal, Caerdydd o lofruddiaeth.

Cafodd Nushi a Dhana eu harestio yn flaenorol ym Mharis, yn dilyn ymholiadau helaeth gan Dîm Ymchwilio i Droseddau Mawr Heddlu De Cymru.

Cafodd Josif Nushi ei estraddodi ddydd Iau ac ymddangosodd gerbron Llys Ynadon Caerdydd ddydd Gwener, 23 Gorffennaf, a bydd yn ymddangos nesaf gerbron Llys y Goron Caerdydd ddydd Mawrth 27 Gorffennaf.

Daeth aelod o'r cyhoedd o hyd i gorff Tomasz am tua 11.30pm nos Iau 28 Ionawr ar Westville Road, Pen-y-lan, Caerdydd.

Mae chwe dyn arall eisoes wedi cael eu cyhuddo mewn cysylltiad â'i farwolaeth ac yn cael eu cadw yn y ddalfa yn aros am achos llys.

Dywedodd DCI Mark O'Shea, Uwch-swyddog Ymchwilio:

“Bu'r broses o estraddodi Josif Nushi a Mihal Dhana o Baris yn ymgyrch dan arweiniad Swyddogion Troseddau Mawr Heddlu De Cymru, cydweithwyr o'r Ganolfan Cydgysylltu Troseddau Rhyngwladol, yr Asiantaeth Troseddu Genedlaethol ac awdurdodau Ffrainc.

“Ni fydd ffiniau rhyngwladol yn ein rhwystro wrth fynd ar ôl pobl yr amheuir eu bod wedi llofruddio yn y DU. Mae gennym gysylltiadau rhagorol â chydweithwyr gorfodi'r gyfraith ledled Ewrop, gan gynnwys Albania. Rwy’n dweud wrth y tri unigolyn rydym yn chwilio amdanynt, y byddai o fudd i chi fynd at yr heddlu o'ch gwirfodd a dweud wrthym beth ddigwyddodd ar y noson honno ym mis Ionawr.”

Mae'r heddlu'n parhau i chwilio am dri dyn arall ar amheuaeth o lofruddiaeth, sef:

Gledis Mehalla, 19 oed, cyfeiriad hysbys diwethaf yn ardal y Waun Ddyfal, Caerdydd.
Elidon Elezi, 22 oed, cyfeiriad hysbys diwethaf East Finchley, Llundain.
Artan Pelluci, 29 oed, cyfeiriad hysbys diwethaf yn ardal y Waun Ddyfal, Caerdydd.

Atafaelwyd nifer o gerbydau fel rhan o'r ymchwiliad, ond mae'r ymchwiliad yn dal i ganolbwyntio ar leoliad Mercedes C200 Sport arian/llwyd, rhif cofrestru BK09 RBX.

Gwelwyd y Mercedes ddiwethaf, sydd â chysylltiadau â'r ymchwiliad ac a allai gynnwys tystiolaeth hanfodol, yng Nghaerdydd ar y diwrnod y cafodd corff Mr Waga ei ddarganfod.

Mae Taclo'r Tacle yn parhau i gynnig gwobr o £5,000 am wybodaeth am y tri unigolyn dan amheuaeth nad ydynt wedi eu dal eto yn ogystal â lleoliad y Mercedes.

https://crimestoppers-uk.org/campaigns-media/news/2021/jun/new-rewards-to-find-outstanding-people-connected-to-the-murder-of-tomasz-waga-in-cardiff

Mae perchennog cofrestredig blaenorol y cerbyd yn byw yn ardal y Tyllgoed yng Nghaerdydd, ac nid yw'n gysylltiedig â'r ymchwiliad hwn o gwbl.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio 101 / anfon e-bost i [email protected] neu ddarparu gwybodaeth ar-lein drwy'r Porth Cyhoeddus Ymchwiliadau Mawr: https://mipp.police.uk/operation/62SWP21B26-PO1

Rhannu

A oes rhywbeth o'i le ar y dudalen hon?

Llywio troedyn

Rydym yn defnyddio cwcis ar y wefan hon i roi profiad gwell, mwy personol i chi.

Rwy'n iawn gyda chwcis Rwyf am olygu'r cwcis

Heddlu De Cymru

  • Cysylltu â ni
  • Dewch o hyd i orsaf heddlu
  • Eich ardal chi
  • Amdanom ni
  • Gyrfaoedd
  • Newyddion
  • Ymgyrchoedd
  • Hysbysiad Preifatrwydd
  • Telerau ac amodau
  • Cwcis
  • Hygyrchedd

Gwybodaeth a gwasanaethau

  • Cyngor a gwybodaeth
  • Cyngor atal troseddau
  • Ystadegau a data
  • Cyrchu gwybodaeth (FOI)
  • Riportio
  • Rhoi gwybod i ni
  • Gwneud cais neu gofrestru
  • Cais
  • Diolchiadau a chwynion

Partneriaid

  • Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu
  • Police.uk
  • Ask the Police

Iaith

  • English

Dilynwch ni ymlaen

© Hawlfraint 2023. Cedwir pob hawl.