Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
11:17 09/07/2021
Mae ditectifs sy'n ymchwilio i farwolaeth Tomasz Waga ar 28 Ionawr 2021 wedi cyhuddo chweched dyn mewn cysylltiad â'i lofruddiaeth.
Mae Ajet Mehalla, 41 oed, o'r Tyllgoed yng Nghaerdydd wedi cael ei gyhuddo o lofruddiaeth, ymosodiad adran 18, cynllwynio i gynhyrchu cyffur dosbarth B a gwyngalchu arian.
Roedd disgwyl iddo ymddangos gerbron Llys Ynadon Caerdydd heddiw (dydd Gwener 9 Gorffennaf).
Daeth aelod o'r cyhoedd o hyd i gorff Tomasz am tua 11.30pm nos Iau 28 Ionawr ar Westville Road, Pen-y-lan, Caerdydd. Roedd wedi dioddef ymosodiad parhaus.
Mae pum dyn arall eisoes wedi cael eu cyhuddo mewn cysylltiad â'i farwolaeth ac yn cael eu cadw yn y ddalfa yn aros am achos llys.
Mae'r heddlu'n parhau i chwilio am dri dyn arall ar amheuaeth o lofruddiaeth, sef:
Gledis Mehalla, 19 oed, cyfeiriad hysbys diwethaf Cathays, Caerdydd.
Elidon Elezi, 22 oed, cyfeiriad hysbys diwethaf East Finchley, London
Artan Pelluci, 29 oed, cyfeiriad hysbys diwethaf Cathays, Caerdydd
Atafaelwyd nifer o gerbydau fel rhan o'r ymchwiliad, ond mae'r ymchwiliad yn dal i ganolbwyntio ar leoliad Mercedes C200 Sport arian/llwyd, rhif cofrestru BK09 RBX.
Gwelwyd y Mercedes ddiwethaf, sydd â chysylltiadau â'r ymchwiliad ac a allai gynnwys tystiolaeth hanfodol, yng Nghaerdydd ar y diwrnod y cafodd corff Mr Waga ei ddarganfod.
Mae Taclo'r Tacle yn parhau i gynnig gwobr o £5,000 am wybodaeth am y tri unigolyn dan amheuaeth nad ydynt wedi eu dal eto yn ogystal â lleoliad y Mercedes.
Mae perchennog cofrestredig blaenorol y cerbyd yn byw yn ardal y Tyllgoed yng Nghaerdydd, ac nid yw'n gysylltiedig â'r ymchwiliad hwn o gwbl.
Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio 101 / anfon e-bost i [email protected] neu ddarparu gwybodaeth ar-lein drwy'r Porth Cyhoeddus Ymchwiliadau Mawr: https://mipp.police.uk/operation/62SWP21B26-PO1