Cafodd pedwar o bobl eu dedfrydu i gyfanswm o dros 10 mlynedd am eu rhan yn cyflenwi llinellau cyffuriau i Abertawe.
Ar 14 Mai 2021, sylwodd swyddogion ar gar a oedd yn teithio rhwng Lerpwl ac Abertawe, yr amheuwyd ei fod yn ymwneud â delio cyffuriau.
Wrth iddo ddychwelyd i Abertawe, aeth swyddogion Plismona'r Ffyrdd ati'n fwriadol i stopio'r car. Datgelodd y gyrrwr, Magdalena Lessenew-Lesniakowsk, fod cyffuriau yn y car.
Yna, cafodd ei harestio a'i rhoi yn y ddalfa.
Drannoeth, bu swyddogion yn dyst i ddêl cyffuriau yn Heol Llangyfelach, Brynhyfryd, ac arestiwyd Neil Williams a Callan Holland.
Yn ystod yr ymchwiliadau, datgelwyd bod y diffynyddion yn rhan o ymgyrch llinellau cyffuriau o'r enw ‘Scouse Ryan’.
Atafaelwyd crac cocên, heroin a chanabis â gwerth stryd amcangyfrifedig o £15,000.
Heddiw, cafodd y pedwar eu dedfrydu yn Llys y Goron Abertawe:
• Dedfrydwyd Neil Williams, 43 oed, o Frynhyfryd, i 30 mis yn y carchar.
• Dedfrydwyd Callan Holland, 29 oed, o Swydd Gaer, i 49 mis yn y carchar.
• Cafodd Kelly Brandrick, 37 oed, o Blas-marl, Abertawe, ddedfryd ohiriedig o 19 mis, a gorchmynnwyd iddi ymgymryd â rhaglen adsefydlu.
• Cafodd Magdalena Lessenew-Lesniakowsk, 36 oed, o Mount Pleasant, Abertawe, ddedfryd ohiriedig o ddwy flynedd, a gorchmynnwyd iddi ymgymryd â 150 awr o waith di-dâl.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Marc Gardner:
“Mae'r Tîm Troseddau Cyfundrefnol bob amser yn gweithio'n galed iawn i atal cyffuriau rhag cael eu dosbarthu, ac i sicrhau bod ein hardaloedd lleol yn amgylchedd anodd i'r rhai sy'n awyddus i wneud arian drwy fasnachu mewn cyffuriau.
“Rydym yn deall yn llwyr y boen a achosir gan gyffuriau a byddwn yn parhau i weithio gyda'n cydweithwyr, heddluoedd eraill a phartneriaid yn erbyn y niwed y mae gangiau troseddau cyfundrefnol yn ei achosi.”
I gael rhagor o wybodaeth am linellau cyffuriau: