Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
15:12 22/12/2021
Ymddangosodd Khuram Iqbal, 29 oed o Gaerdydd, yn y Llys Troseddol Canolog yn yr Old Bailey yn Llundain ddoe (ddydd Mawrth 21 Rhagfyr) lle cafodd ei garcharu am 16 mis am fasnachu cryptoarian ar y we dywyll.
Plediodd Iqbal yn euog ar ôl torri gorchymyn hysbysu 10 mlynedd am beidio â rhoi gwybod i'r heddlu am ddau gyfrif cryptoarian. Plediodd yn euog i dorri'r gorchymyn bedair gwaith rhwng mis Gorffennaf 2019 a mis Awst eleni.
Cafodd Iqbal, 29 oed o Gaerdydd, ei garcharu'n flaenorol yn 2014 am dair blynedd a thri mis am ledaenu cyhoeddiadau terfysgol a meddu ar wybodaeth derfysgol.
Dywedodd y Ditectif Uwch-arolygydd, Jim Hall, Pennaeth Uned Eithafiaeth a Gwrthderfysgaeth Cymru: “Torrodd Iqbal orchymyn a wnaed o dan Adran 4 o'r Ddeddf Terfysgaeth ac nid oedd llawer o ddewis ganddo ond pledio'n euog am fod y dystiolaeth yn ei erbyn mor gryf.
“Byddwn yn parhau i fynd i'r afael yn gadarn â'r bobl hynny sy'n torri'r gyfraith yn gyson ac sy'n peri bygythiad i'n cymunedau.
“Rwy'n apelio ar unrhyw un sy'n credu bod rhywun y mae'n ei adnabod yn agored i radicaleiddwyr i gysylltu â'r heddlu neu asiantaethau eraill a all roi'r cymorth angenrheidiol.
“Gorau po gyntaf y gallwn ymyrryd er mwyn ceisio atal pobl rhag mynd i drafferthion gydag eithafiaeth ac wynebu'r posibilrwydd o gael eu herlyn.”
“Gan fod lefel y bygythiad gan derfysgaeth wedi cael ei chodi i ‘difrifol’ yn ddiweddar, rwyf am atgoffa aelodau'r cyhoedd o'r angen i fod yn wyliadwrus ac os byddant yn gweld neu'n clywed rhywbeth amheus, dylent gysylltu â ni i roi gwybod amdano.
“Mae swyddogion o bob rhan o'r rhwydwaith Plismona Gwrthderfysgaeth yn gweithio ddydd a nos i ddiogelu'r cyhoedd rhag y rhai a allai fod am ein niweidio. Gall y cyhoedd ein helpu drwy gysylltu â ni os byddant yn gweld rhywbeth sy'n peri pryder.”
Bob blwyddyn, mae miloedd o adroddiadau gan y cyhoedd yn helpu'r heddlu i gadw cymunedau'n ddiogel rhag terfysgaeth. Os byddwch yn gweld neu'n clywed unrhyw beth amheus neu sy'n peri pryder, gallwch roi gwybod i'r heddlu amdano, yn gyfrinachol, drwy ffonio 0800 789 321 neu ar-lein yn www.gov.uk/ACT.
Mewn argyfwng, neu os bydd angen cymorth yr heddlu arnoch ar frys, dylech ffonio 999 bob amser.